‘Goroeswraig’ yn Goeden Gymreig y Flwyddyn

 Fe fydd derwen yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol, a achubwyd trwy ddamwain flynyddoedd lawer yn ôl, yn chwifio’r faner dros Gymru yn Ewrop

Mae pobl Cymru wedi dewis derwen sydd erbyn hyn yn sefyll yn falch yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol fel Coeden Gymreig y Flwyddyn ar gyfer 2015. Fe dderbyniodd y goeden, a fedyddiwyd fel ‘Goroeswraig’ (‘Survival at the cutting edge’), 28% o’r pleidleisiau a fwriwyd mewn cystadleuaeth agos rhwng saith coeden mewn rhannau gwahanol o Gymru, a drefnwyd gan Coed Cadw (Woodland Trust) ac a gefnogwyd gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery.

Mae ‘Goroeswraig’  yn ymuno â Gellygwydden Cubbington yn Lloegr, Derwen y Swffragetiaid yn yr Alban a Choeden Heddwch yng Ngogledd Iwerddon yng Nghystadleuaeth Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn ym mis Chwefror 2016. Fe fydd modd i’r cyhoedd bleidleisio ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf.

Cynigiwyd y goeden hon gan ddyn lleol, Terry Treharne, a ysgrifennodd ar y ffurflen enwebu: “Pan gefais fy ngeni roedd y tir sydd bellach yn Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru wedi ei rannu’n saith fferm gychwynnol. Er mwyn ennill arian poced yn 14 oed, fe gefais y gwaith o glirio padog oedd wedi gordyfu. Gan ddefnyddio pladur, fe gliriais ddarnau helaeth ohono, hyd nes i boen arteithiol ddatblygu yn fy mhenelin, a bu’n rhaid rhoi’r gorau i’r gwaith. Ar ôl dychwelyd ddeuddydd yn ddiweddarach, fe wnaeth y ffermwr fy atgoffa (er nad oedd wedi dweud wrthyf o’r blaen) i beidio â thorri’r dderwen yn y padog. Felly, oni bai am fy mhenelin, fe fyddwn i wedi dinistrio’r goeden hardd hon.”

Dywed David Hardy o Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru: “Rwyf wrth fy modd fod y goeden ryfeddol hon wedi cael ei dewis fel Coeden Gymreig y Flwyddyn. Mae’n amlwg fod rhywbeth yn y stori am oroesiad ffodus y goeden hon wedi taro deuddeg gyda’r cyhoedd. Y newyddion da yw bod y goeden yma o hyd ac yn gallu cymryd ei lle ymhlith 8,000 o rywogaethau o blanhigion gwahanol yn ymestyn dros 560 o erwau o gefn gwlad prydferth sy’n ffurfio Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.”

Dywedodd Beccy Speight, prif weithredwr Coed Cadw: “Mae’r pedair coeden i gyd yn dangos sut mae’n bywydau ni ynghlwm â byd naturiol. Yn anffodus, mae yna lawer o goed eiconig sy ddim yn cael ei diogelu fel maen nhw’n haeddu ac mae’r gystadleuaeth hon yn tynnu sylw at yr angen i sicrhau eu bod yn goroesi er mwyn i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau, a’r cof amdanynt barhau.”

Dywedodd Annemiek Hoogenboom, cyfarwyddwr y People’s Postcode Lottery: “Cystadleuaeth arbennig yw Cystadleuaeth Coeden y Flwyddyn, sy’n creu cysylltiad rhwng pobl a choed. Mae rhannu a chofio straeon am goed yn helpu cenedlaethau’r dyfodol i’w caru a’u hamddiffyn. Rwy’n falch iawn bod chwaraewyr y People’s Postcode Lottery yn helpu darganfod coed rhyfeddol ym mhob cwr o’r Deyrnas Unedig.”

Nod yr ymgyrch i ddathlu coed arbennig, a drefnir gan Coed Cadw, yw ceisio creu cofrestr ar gyfer Coed o Ddiddordeb Arbennig Cenedlaethol ym mhedair gwlad y DU ac mae dros 13,000 o bobl wedi ei chefnogi hyd yn hyn.

Am ragor o wybodaeth ewch at: www.woodlandtrust.org.uk/campaigning