Ewch ati i hau a thyfu er mwyn creu eich dôl fach eich hun

Dyma eich cyfle i roi hwb i fioamrywiaeth yn eich iard gefn eich hun, ac mae’r cyfan yn seiliedig ar waith gwarchod dolydd llwyddiannus sy’n cael ei wneud gan wyddonwyr Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Collwyd 97 y cant o’r dolydd llawn blodau gwyllt ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig dros y 100 mlynedd ddiwethaf, sy’n ffigur syfrdanol, a, gyda nhw, collwyd yr holl löynnod byw, gwenyn, ffyngau, pryfed hofran, chwilod, adar a mamaliaid a fu unwaith yn ffynnu ynddynt.

Dyma eich cyfle i helpu i unioni’r golled hon.

Mae staff a gwirfoddolwyr yn yr Ardd Fotaneg wedi bod wrthi’n cynaeafu, yn glanhau ac yn pecynnu cymysgedd o hadau organig gan flodau gwyllt a glaswelltau brodorol o’r dolydd llawn rhywogaethau yn y warchodfa natur genedlaethol – ac maent ar werth ‘nawr.

Nid oes angen i chi fod yn berchen ar gae mawr chwaith; gallwch wneud hyn yn eich gardd gefn eich hun.

Dywed y Swyddog Gwyddoniaeth, Dr Kevin McGinn, bod ‘nawr yn adeg ddelfrydol o’r flwyddyn i fynd ati i hau a thyfu dôl: “Dychmygwch gymysgedd o laswelltau a blodau gwyllt lliwgar yn siglo yn yr awel, gan ddarparu arddangosfa odidog a lle i wylio bywyd gwyllt – reit ar stepen eich drws. Mae dolydd nid yn unig yn hafan i bryfed sy’n peillio, ond i adar a mamaliaid bach hefyd. Bydd darparu’r cynefin cywir yn golygu y bydd yr holl fywyd gwyllt hyn yn symud yn uniongyrchol i’ch gardd.”

Dywedodd Kevin: “Y cam cyntaf yw dewis ardal o’ch lawnt sy’n rhoi’r man cychwyn gorau i chi. Os yw’n bosibl, dewiswch ddarn heulog, yn ddelfrydol gyda phridd gwael sydd eisoes â blodau gwyllt neu ‘chwyn lawntiau’ – mae hynny’n arwydd da bod yr amodau’n iawn.”

Ac os ydych yn credu nad yw eich lawnt sydd wedi’i thorri’n daclus yn barod i fod yn ddôl, ni allech fod yn fwy anghywir: “Mae torri’r glaswellt dro ar ôl tro a chael gwared ar y toriadau yn lleihau ffrwythlondeb y pridd yn raddol. Mae hyn yn gwneud y glaswelltau’n llai egnïol, a byddant yn gadael i’r blodau gwyllt gystadlu.

Felly beth sydd yng nghymysgedd hadau’r ddôl?  Mae’r Pennaeth Dehongli, Bruce Langridge, yn adrodd yr hanes: “Gan ddefnyddio ein hymchwil o ran planhigion a pheillwyr, ynghyd â’n gwybodaeth am yr hyn sy’n gwneud dôl, rydym wedi dewis hadau o rywogaethau sy’n doreithiog yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las, ac a fydd yn helpu i gyflymu trawsnewidiad eich lawnt i fod yn ofod bioamrywiol sy’n llawn blodau gwyllt.”

“Mae’r Effros Ewffrasia sp., yn flodyn bach tlws y mae ei betalau yn fy atgoffa o demtwraig mewn cartŵn, sydd â blew amrannau hir. Mae’r Effros yn cymryd maetholion o’r glaswelltau cyfagos, ac yn helpu i greu lle i flodau gwyllt eraill osod hadau a ffynnu.”

 

 

Un arall sy’n sugno bywyd allan o laswelltau tal, swmpus, ond mewn modd hyd yn oed mwy effeithiol, yw’r Gribell Felen Rhinanthus minor. “A dyna pam rwy’n ei galw’n ‘fampir byd y planhigion’. Fel bonws ychwanegol, pan fydd ei hadau’n aeddfed, bydd y capsiwl hadau yn chwyddo a’r hadau y tu mewn yn ratlo os cânt eu hysgwyd, fel maracas,” meddai Bruce.

 

Efallai fod clust y gath Hypochaeris radicata yn edrych fel dant y llew, ond nid dyna yw’r blodyn hwn. Eglura Bruce: “Mae pryfed sy’n peillio yn dwlu ar y blodyn hwn, mae ei wreiddiau dwfn yn helpu i rwymo’r pridd, a byddant yn tynnu dŵr i mewn i’r pridd yn ystod cyfnodau sych iawn.”

 

 

A phan fyddwch yn meddwl bod eich dôl yn dod at ddiwedd ei thymor, bydd pengaled Ffrainc Centaurea nigra, yn darparu lliw ar ddiwedd y tymor a ffynhonnell fwyd gyfoethog iawn ar gyfer pryfed sy’n peillio.

 

 

Mae pennau coch cnapiog y bwrned mawr Sanguisorba officinalis yn olygfa gynyddol brin yn nolydd Cymru, ond maent yn darparu ffynhonnell neithdar ar ddiwedd y tymor, yn ogystal â man clwydo ar gyfer pryfed cop rhyfeddol.

 

 

Ac nid oes dim yn dweud “haf” fel ystod o flodau ymenyn Ranunculus acris. Mae pryfed sy’n peillio yn dwlu arnynt, ac mae plant yn dal i fwynhau profi eu cariad at fenyn trwy weld a yw’r petalau’n adlewyrchu ar eu gên.

 

Cymysgedd Hadau’r Ddôl – aethom ati i gasglu hadau blodau gwyllt ddiwedd yr haf, fel y gallech gael pob un o’r rhywogaethau uchod, yn ogystal â digon o faeswellt a berwellt y gwanwyn, gyda’r bonws ychwanegol o rai pethau annisgwyl, a allai gynnwys un o’r pedair rhywogaeth o degeirian sy’n ffynnu yn ein dolydd.

Dywedodd Dr McGinn: “Trwy reoli ardal o’ch lawnt fel dôl, byddwch chi a’ch bywyd gwyllt lleol yn cael eich gwobrwyo â thoreth gynyddol o flodau gwyllt flwyddyn ar ôl blwyddyn. Gadewch i’ch lawnt dyfu’n hir yn ystod misoedd y gwanwyn a’r haf, yna torrwch a chasglu’r toriadau ar ôl i’r hadau gwympo. Er y bydd planhigion lluosflwydd fel y bwrned mawr a’r blodyn ymenyn yn cymryd amser i sefydlu a blodeuo, mae’n werth aros.”

I ddarganfod sut i drawsnewid eich lawnt yn ddôl blodau gwyllt, darllenwch flog Dr Kevin McGinn yma.

I archebu ‘Cymysgedd Hadau’r Dôl – Achub Peillwyr’ a phacedi o hadau rhywogaethau unigol, ewch i Ganolfan Arddio Pot Blodyn Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, ar ein shop ar-lein neu anfonwch neges e-bost.

Cynhyrchwyd y gymysgedd hadau gan brosiect ‘Tyfu’r Dyfodol’ yr Ardd Fotaneg, a hynny’n rhan o’i Gynllun Gwarantu Achub Peillwyr, sy’n gwarantu bod planhigion sy’n cael eu gwerthu o dan ei wneuthuriad yn cael eu tyfu heb ddefnyddio mawn, yn rhydd o bryfladdwyr synthetig, a’u bod, yn ôl 17 mlynedd o ymchwil fanwl, yn berffaith i beillwyr.

I weld dôl blodau gwyllt yr Ardd Fotaneg Genedlaethol ym mis Mai, gwyliwch y ffilm fer hon –