Eich pasbort i harddwch clychau’r gog

Mae yna gyfle i bobl sy’n gwirioni ar glychau’r gog ymgolli yn eu harddwch hudolus y gwanwyn hwn yng ngorllewin Cymru.

Mae Gerddi Gorau Gorllewin Cymru, sef grŵp o chwech o leoliadau gwych yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion, yn agor eu drysau i ddathlu’r blodyn hoffus hwn.

Eich pasbort i’r olygfa odidog hon o’r blodyn gwyllt yw taflen Gerddi Gorau Gorllewin Cymru, sy’n gwneud canllaw perffaith ar gyfer llwybrau’r clychau’r gog.

Mae gan glychau’r gog, Hyacinthoides non-scripta, yr enwau cyffredin canlynol hefyd: bwtsiasen y gog, croeso haf a bacsau’r brain. Gellir dod o hyd i filiynau o fylbiau mewn un coetir yn unig, a fydd yn blodeuo’n garpedi o flodau ym mis Ebrill a mis Mai.

Ewch i ymweld â Chastell Upton, un o berlau cudd Sir Benfro a chyrchfan gwbl angenrheidiol ar gyfer selogion y byd garddwriaethol.

Gerllaw y mae Castell a Gerddi Picton, sef un o blastai godidocaf Sir Benfro, sy’n cynnwys 40 erw o’r gerddi a’r coetiroedd harddaf sy’n bod.

Mae Gardd Dyffryn Fernant Christina Shand wedi cael ei disgrifio “yn un o’r gerddi mwyaf ysbrydoledig yng Nghymru”, tra bo Cae Hir, gardd Gymreig â hanes Iseldireg, wedi ennill teitl yr Ail Ardd Orau yng Nghymru yn dilyn pleidlais gan ddarllenwyr Garden News.

Mae Sir Gaerfyrddin yn cynnig dau arhosfan gwych ar hyd eich taith: Aberglasne, sy’n baradwys deg erw enwog i bobl sy’n gwirioni ar blanhigion, ynghyd â Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, sy’n gyfuniad hynod o ddiddorol o’r modern a’r hanesyddol, ynghyd â gerddi sy’n seiliedig ar themâu, coetiroedd, nodweddion dŵr dramatig ac ardaloedd gwyllt – y cyfan yn ymestyn dros 568 o erwau.

Dywedodd John Atkin, Prif Arddwr Gerddi Aberglasne: “Er gwaethaf yr holl blanhigion prin ac anghyffredin yr ydym yn eu tyfu, mae yna rywbeth arbennig iawn yn perthyn i’n coetiroedd sy’n llawn o glychau’r gog.” Mae clychau’r gog yn gynhenid i wledydd Prydain, ac maent yn annwyl iawn i lawer o bobl. Trwy reolaeth dda, gall clychau’r gog greu arddangosfa ardderchog o blanhigion cynhenid yn y rhan fwyaf o goetiroedd, ond maent yn arbennig o dda yn ein coetiroedd ffawydd.”

  1. I gael rhagor o wybodaeth am amserau agor, prisiau a chyfarwyddiadau, ewch i www.facebook.com/GreatGardensofWestWales/