Edrych yn ôl a symud ymlaen:

Cyfarwyddwr Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Huw Francis, yn rhagweld blwyddyn gyffrous a llwyddiannus arall yn yr Ardd

 

Wrth i ni ddechrau 2019, gallwn edrych yn ôl ar 2018 a theimlo’n falch o’r llwyddiannau niferus y mae pawb – y staff a gwirfoddolwyr – wedi eu cyflawni yn ystod y 12 mis diwethaf.

Mae’r cyflawniadau hyn yn adeiladu ar ddwy flynedd flaenorol o dwf eithriadol yn niferoedd yr ymwelwyr, ac maent wedi dangos bod yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn apelio at ymwelwyr mewn modd sy’n sicrhau ei bod yn un o’r prif gyrchfannau ar gyfer ymwelwyr yng Nghymru, a hefyd yn meddu ar yr arbenigedd a’r sgiliau i’w gwneud yn ganolfan ragoriaeth sy’n arwain y byd ym meysydd ymchwil wyddoniaeth, garddwriaeth a dysgu.

Yn ystod 2018, daeth yr Ardd yn un o’r Gerddi Botaneg cyntaf yn y byd, a’r unig un yn y Deyrnas Unedig, i sicrhau achrediad fel gardd fotaneg, ac wedyn fel ymarferydd cadwraeth achrededig. Mae’r gwobrau mawreddog hyn, gan Botanic Gardens Conservation International, yn nodi ansawdd uchel y gwaith garddwriaeth, cadwraeth ac ymchwil a wnaed yn yr Ardd dros nifer o flynyddoedd, ac yn amlygu ei phwysigrwydd rhyngwladol, yn ogystal â’r cyfraniad a wnawn i ddiogelu rhywogaethau, cynefinoedd ac ecosystemau mewn perygl yng Nghymru a ledled y byd.

Yn gartref i rai o’r planhigion mwyaf prin yng Nghymru, mae gennym gyfle i ddweud wrth ein hymwelwyr am blanhigion unigryw’r wlad hon, ac am eu pwysigrwydd diwylliannol ac amgylcheddol i bobl a thirweddau Cymru. Mae hyn hefyd yn rhoi cyfle i ni ddangos bod cadwraeth amgylcheddol yn fater byd-eang sy’n effeithio ar Gymru yn gymaint ag y mae’n effeithio ar wledydd eraill.

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn elusen annibynnol sy’n ymroddedig i ymchwil a chadwraeth bioamrywiaeth, i gynaliadwyedd a dysgu gydol oes, ac i fwynhad yr ymwelydd.

Rydym yn ddiolchgar am y cyllid a gawn gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae angen i ni gynhyrchu llawer mwy o’n hincwm ein hunain i gefnogi’r gwaith ymchwil, cadwraeth ac addysg y mae’r sefydliad hwn yn ei wneud, yn ogystal ag i weithredu o ddydd i ddydd.

Mae’r Ardd yn denu ymwelwyr o bob cwr o’r byd ac, yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, croesawyd 161,750 o bobl fel ymwelwyr hamdden, gyda llawer mwy yn dod am gyrsiau addysg ac i ddefnyddio ein mannau cyfarfod a’n lleoliadau priodasau/digwyddiadau.

Y ffigur hwn yw’r uchaf ers y flwyddyn gyntaf i’r Ardd fod ar agor, a ffioedd mynediad ac aelodaeth yr ymwelwyr hyn a gynhyrchodd y gyfran fwyaf o’n hincwm, wedi’i ddilyn yn agos gan yr incwm o’n safleoedd lletygarwch.

Mae’r lefelau uchel o ran y twf yn niferoedd yr ymwelwyr a welwyd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi arafu ond, hyd at ddiwedd Tachwedd 2018, roedd nifer yr ymwelwyr yn dal i fod ychydig yn uwch na’r flwyddyn flaenorol, er i hyn ostwng ychydig ym mis Rhagfyr. Mae hyn yn ganlyniad da gan fod nifer yr ymwelwyr â llawer o gyrchfannau tebyg wedi gostwng yn amlwg yn ystod 2018.

Dyma uchafbwyntiau nodedig 2018, a gyfrannodd at ein llwyddiant fel cyrchfan ymwelwyr a chanolfan rhagoriaeth mewn Gwyddoniaeth a Garddwriaeth, ac a adeiladodd ar y llwyddiant hwnnw:

  • Cael ein hachrediad gardd fotaneg, sydd wedi codi proffil yr Ardd yng Nghymru, ynghyd â phroffil Cymru yn y Byd;
  • Lansio’r prosiect, Tyfu’r Dyfodol, a sicrhaodd fod dros 1,500 o unigolion wedi cofrestru ar gyfer bron 2,200 o leoedd ar gyrsiau, ac a ymgysylltodd â dros 32,000 o bobl mewn digwyddiadau a sioeau cyhoeddus o Gernyw i Ynys Môn;
  • Adnewyddu a datblygu gwelyau brodorol Cymru, sydd wedi amlygu pwysigrwydd ein gwaith cadwraeth ac sy’n gweithredu fel offeryn hynod berthnasol ar gyfer ennyn diddordeb y cyhoedd a’n rhanddeiliaid yn y gwaith a wnawn;
  • Y lleiniau blodau gwyllt yn yr ardd furiog allanol, sy’n cyfuno ymchwil wyddoniaeth ag apêl ymwelwyr;
  • Y contractau masnachol a sicrhawyd er mwyn tyfu planhigion brodorol Cymreig i’w hailgyflwyno i’r gwyllt yn rhan o weithgareddau cadwraeth pwysig;
  • Diwrnod Meithrin, gyda dros 400 o blant o dan 5 oed yn mwynhau eu hunain, gan greu cenhedlaeth newydd o blant a fydd yn mwynhau Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru;
  • Cychwyn (ail)adeiladu’r parcdir, argaeau a llynnoedd hanesyddol – prosiect a fydd yn creu cyrchfan twristiaeth dreftadaeth bwysig yng Nghymru, yn denu ymwelwyr ac yn hwyluso gwell mynediad i’r parcdir, y coetir a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las;
  • Agoriad Y Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydain, sydd wedi denu ymwelwyr a chodi proffil yr Ardd;
  • Digwyddiadau a gweithgareddau a ddenodd, ar un dydd Sul cofiadwy ym mis Chwefror, dros 3,500 o bobl mewn un diwrnod.

Yn llai amlwg, ond yr un mor bwysig i lwyddiant yr Ardd, y mae’r nifer o dasgau a gweithgareddau hanfodol eraill sy’n cael eu cwblhau bob dydd, gan gynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny: glanhau’r safle, sicrhau bod y system wresogi yn parhau i weithio, y dŵr yn parhau i lifo a’r goleuadau’n parhau ymlaen, prosesu’r holl waith papur hanfodol, a chroesawu a bwydo’r degau o filoedd o ymwelwyr sy’n ein cefnogi ar hyd y flwyddyn.

Wrth i ni edrych ymlaen at 2019, mae’n debygol o fod yn flwyddyn gyffrous, gyda phrosiectau presennol yn datblygu ac yn ehangu, prosiectau newydd yn dechrau, a’r ardd yn aeddfedu mwy fyth. Bydd hefyd yn flwyddyn anrhagweladwy a heriol o ystyried yr hinsawdd wleidyddol ac economaidd ansicr.

Fodd bynnag, mae’r Ardd ar y blaen, gyda chynnydd y blynyddoedd diwethaf i’n cynnal, a thîm ymroddedig i’n harwain at y cam nesaf yn ei datblygiad.

Diolch i bawb am eich cyfraniadau i’r achos, ac edrychwn ymlaen at eich croesawu yn ôl yn 2019.

Blwyddyn newydd dda,

 

Huw Francis

Cyfarwyddwr