Cynllun caredig i beillwyr arbennig

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru wedi cyfuno â Llywodraeth Cymru helpu lansio menter unigryw i ddiogelu ein peillwyr gwerthfawr.

Mae’r Cynllun Caredig i Beillwyr, sy’n cael ei redeg gan dasglu Cynllun Gweithredu’r llywodraeth i Beillwyr wedi ei ddatblygu i annog sefydliadau a chymunedau ar hyd a lled Cymru i weithredu i helpu peillwyr drwy ddarparu mannau fforio, mannaun nythu, defnyddio llai o blaladdwyr a chael cymunedau i gymryd rhan.

Mae tîm gwyddoniaeth yr Ardd Fotaneg wedi darparu cyngor arbenigol ar gyfer llyfryn sy’n rhoi manylion y prif blanhigion i beillwyr i roi arweiniad i dyfwyr beth i’w blannu drwy’r flwyddyn.

Meddai llefarydd yr Cynllun Caredig i Beillwyr: “Rydyn ni am weld pob sefydliad yng Nghymru yn cymryd rhan: cymunedau a chyrff cymunedol, ysgolion, cyrff cyhoeddus, cynghorau tref a chymuned,  busnesau, prifysgolion, colegau a mannau addoli .”

Yn ychwanegol: “Nid sôn am wenyn yn unig mae’r cynllun Caredig i Beillwyr. Rydyn ni am i bobl weithredu i helpu ein holn beillwyr.”

Meddai swyddog gwyddoniaeth yr Ardd Fotaneg Dr Abigail Lowe: ‘Mae’r gwaith ymchwil mae’r tîm yn ei wneud yma wedi helpu adeiladu darlun clir iawn pa blanhigion sy’n  berffaith i beillwyr. Rydyn ni’n falch iawn i fod yn cymryd rhan flaenllaw yn y cynllun gwych hwn, a gobeithiwn y bydd y llyfryn newydd hwn yn rhoi i bobl Cymru yr holl wybodaeth mae ei hangen arnynt i wneud yr hyn sy’n dda i beillwyr.”

Ar sail eu gwaith ymchwil blaenllaw, mae’r Dr Lowe wedi dewis 30 o blanhigion a fydd yn gwneud eich lle chi yn fwy deniadol i beillwyr, boed yn fan cymunedol, yn lawnt, yn iard gefn neu’n gynwysyddion neu flychau blodau ar falcon. Mae yna hefyd awgrymiadau ar dyfu o had, gwneud toriadau a chyngor ar wneud planhigion newydd drwy ddefnyddio technegau haenau a rhannu.

Gallwch gael gwybod rhagor am y cynllun Caredig i Beillwyr a lawrlwytho’r llyfryn yma: https://www.biodiversitywales.org.uk/Yngl-n-r-cynllun

Gallwch hefyd gael copi clawr caled o’r llyfryn.  Gofynnwch pan fyddwch yn dod i’r Ardd Fotaneg  nesaf.