Croeso
Parhau i ddiogelu, addysgu ac ysbrydoli
Croeso i rifyn diweddaraf cylchgrawn Aelodau yr Ardd – Yr Ardd.
Mae bron i flwyddyn ers i mi ymuno â’r Ardd a bu’r cyfnod yn un cyffrous a phleserus. Mae llawer o aelodau newydd wedi dod aton ni hefyd, yn gwneud cynnydd o 16% yn yr aelodaeth, felly CROESO arbennig i chithau os ydych chi’n derbyn y cylchgrawn hwn am y tro cyntaf.
Dros y flwyddyn ddiwethaf cawsom sylw ardderchog ar deledu, radio ac yn y wasg, a chyhoeddodd ein gwyddonwyr erthyglau mewn cyfnodolion o bwys. Cynyddodd nifer yr ymwelwyr a chawsom 23,000 o ymweliadau addysgol, a oedd yn gyfle gwych i rannu’r gwaith arloesol a wneir yma.
Gobeithio y medrwch ymweld â ni sawl gwaith yn ystod 2017, a thrwy hynny mwynhau gogoniant pob tymor. Edrychwn ymlaen at roi croeso cynnes i chi.
– Huw Francies, Cyfarwyddwr