Mae yna gyfle unigryw’r Dydd Sadwrn yma (Ebrill 23) i weld y cynlluniau i adfer beth oedd un o barciau dŵr hynaf Prydain.
Wrth i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru caboli ei gynlluniau am yr ailddatblygiad o’r tirlun hanesyddol, gwahoddir 30 o bobl i ymuno â pheirianwyr Mann Williams a chlywed yn uniongyrchol amdano’r dyluniad, yr argaeau a’r gwelediad datblygedig o’r cornel arbennig yma o Sir Gaerfyrddin.
- Mae’r daith yn cychwyn am 3yp.
- Mae’r daith yn mynd drwy dir coedwig a gall fod yn fwdlyd, felly pam na wnewch chi balu eich esgidiau anturio allan a dewch ymlaen i ddarganfod mwy am y parc dŵr hyfryd yma. Gwisgwch ddillad sy’n addas i’r tywydd os gwelwch yn dda.
I archebu’ch lle, cysylltwch â HollyMae ar HollyMae.SteanePrice@gardenofwales.org.uk
- I gwblhau’r adferiad o’r parcdir hanesyddol sydd o bwys cenedlaethol, mae’r Ardd wedi sicrhau yn llwyddiannus gyllid o Gronfa Treftadaeth y Loteri ag eraill. Dechreuodd y prosiect “Middleton: Adennill Paradwys – Adfer Ystâd Brin o Gyfnod y Rhaglywiaeth” ym mis Ionawr 2015 a fydd yn cwblhau gweledigaeth wreiddiol yr ardd fotaneg, gan gynnwys adferiad o’r gyfres o nodweddion rhamantus y parcdir sy’n cynnwys sgydiau dramatig, rhaeadrau a ffynhonnau, wedi eu cysylltu gan lwybrau troellog a phontiai gwladaidd, yn arwain at byllau tryloyw, llennyrch parcdirol, a golygfeydd hudolus, erbyn 2020.
- Crëwyd parc dŵr Plas Middleton yn yr 1790au gan nabob yr Ymerodraeth Brydeinig, Syr William Paxton ag oedd, ar y pryd, un o ddynion cyfoethogaf Prydain.