Canmol Gwirfoddolwyr

Yn galw ar wirfoddolwyr yn Sir Caerfyrddin! Mae eich Diwrnod Arbennig chi ar ddydd Mercher, Mehefin 6 sy’n golygu mynediad RHAD AC AM DDIM ar eich cyfer i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Dewch i archwilio’r Ardd Fotaneg, cwrdd â gwirfoddolwyr a darganfod cyfleon, gwych a newydd i helpu achos da ym meysydd garddwriaeth, treftadaeth, hanes, gwyddoniaeth a hyd yn oed adar ysglyfaethus.

Mae Mehefin 6 yn ddathliad yn yr Ardd i’r rheiny sy’n rhoi o’u hamser mor hael ar draws y sir ac mae’r Cydlynydd Gwirfoddol Jane Down yn dweud y bydd hi’n ddigwyddiad gwych: “Mae’r Ardd yn dibynnu sut gymaint ar wirfoddolwyr ond nid ydym ar ein pen ein hunain – mae aelodau o fyddin wirfoddol y sir yn cael eu defnyddio mewn pob sefyllfa ac ychydig sydd ddim yn gwerthfawrogi’r hyn maent yn eu gwneud a’u hymdrechion hael.

“Bydd gennym ddigon o aelodau tîm gwirfoddol yma i roi golau ar y gwaith caled maent yn eu gwneud yma bydd hefyd yn gyfle arbennig i bobl i rannu eu storiâu.”

Mae’r Ardd ar agor o 10am tan 6pm (mynediad olaf am 5pm).

Mae mynediad i’r Ardd yn £11 (yn cynnwys Rhodd Cymorth) ar gyfer oedolion a £5 i blant pump i 16 oed. O dan 5 yn rhad ac am ddim. Mynediad yn RHAD AC AM DDIM ar gyfer aelodau’r Ardd ac mae parcio am ddim i bawb.

Dylai gwirfoddolwyr sy’n dymuno hawlio mynediad rhad ac am ddim ar gyfer Mehefin 6 ddod â rhyw ffyrdd o ID gyda hwy.