Amser i gael gwared ag offer diangen

Cyn i chi gau sied yr ardd am y gaeaf, a allwch chi chwilio o gwmpas am offer sbâr?

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru nawr yn fan casglu ar gyfer yr elusen Tools for Self-Reliance, sy’n helpu cymunedau gwledig yn Affrica.

Mae TFSR Cymru wedi’i seilio yng Ngrug Hywel ac mae ganddynt 65 o wirfoddolwyr gweithgar sy’n cyfarfod yn eu gweithdai llawn offer i lanhau a thrwsio dyfeisiau a roddir. Yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf, maent wedi anfon mwy na 100 tunnell o offer i wahanol wledydd yn Affrica.

Felly, dewch â’ch offer sbâr, diangen ac wedi torri (ond nid y tu hwnt i atgyweirio!) i’r Ardd a byddwn yn eu trosglwyddo i TFSR Cymru.

Mae ganddynt ddiddordeb arbennig mewn eitemau a fydd o ddefnydd i seiri, gof a phlymwyr. Byddant hefyd yn derbyn offer garddio y maent yn eu hadnewyddu yn eu gweithdai ac yn eu hailwerthu ledled Cymru, gan ddefnyddio’r arian i dalu costau cludo nwyddau.

Dewch â’ch rhoddion i’r Ardd Fotaneg, ar unrhyw ddydd, rhwng 10yb a 4yp tan Ddydd Iau Tachwedd 30.

Am fwy o wybodaeth ar sut a beth i’w rhoi, cysylltwch â Jane Down os gwelwch yn dda ar 01558 667118 neu jane.down@gardenofwales.org.uk

I ddarganfod mwy am yr elusen Tools For Self-Reliance, ewch i www.tfsrcymru.org.uk