Y Porthdy

Mae eich taith o amgylch yr Ardd yn dechrau pan ewch chi drwy’r Porthdy.

Ysbrydolwyd cynllun yr adeilad nodedig hwn gan dai crwn hynafol Cymreig, yn debyg i’r rhai a welir yng Nghastell Henllys yn Sir Benfro.

Wedi’i gynllunio gan Foster a’i Bartneriaid, mae’r to yn grwn a’i ben i waered, tra bod y gorchudd o bren o gedrwydden Canada.

Mae’r adeilad unigryw hwn yn cynnwys ein swyddfa docynnau, a cherflun dŵr prydferth ‘Tri Deg Tri o Filoedd, Saith Cant a Naw Deg Wyth’ gan Marion Kalmus. Dyma’r gyntaf o nifer o nodweddion dyfrol i’w canfod ar draws yr Ardd, sy’n tynnu ein sylw at bwysigrwydd dŵr yn ein bywydau.  Mae’r teitl yn adlewyrchu’r nifer o rywogaethau o blanhigion a oedd mewn perygl o ddiflannu yn 2000, blwyddyn agor Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Yn ymyl y Porthdy, mae ein siop gwerthu planhigion a siop goffi.