Theatr Botanica

Mae’r lleoliad dan do hwn, sydd wedi’i leoli yn Sgwâr y Mileniwm, yn cael ei ddefnyddio ar gyfer darlithoedd cyhoeddus, gweithgareddau i’r teulu, a digwyddiadau corfforaethol.

Yng nghyntedd y theatr, gwelwch fosaig enfawr seramig, sy’n dathlu bio-amrywiaeth Cymru.  Cynlluniwyd ef gan yr artist cymunedol Pod Clare ac fe’i hadeiladwyd gan 260 o gyfranogwyr o bob sir yng Nghymru.

Yn y Cwrt Stablau cyfagos, byddwch yn dod o hyd i gaffis a siop. O amgylch perimedr Sgwâr y Mileniwm, byddwch hefyd yn dod o hyd i hen siop y fferyllydd yn Neuad yr Apothecari, a’r Cwtsh, sef y parlwr hufen iâ, yn ogystal â’r Hwb Bywyd Gwyllt a Theatr Botanica, sy’n fannau gwych ar gyfer gweithgareddau teuluol a gwyliau ysgol.