Tai Gwydr Meithrin

Mae ein tri tŷ gwydr meithrin, a’r poly-twnnel enfawr y tu hwnt iddynt, yn bwysig dros ben i lwyddiant yr Ardd

Yma ry’n ni’n tyfu’r rhan fwyaf o’n planhigion sydd i’w gweld yn yr Ardd o had, gyda llawer o’r hadau wedi eu casglu o’r gwyllt. Trwy ddefnyddio’r mannau y tu ôl i’r llenni gallwn gylchdroi planhigion, gan osod y rhai sy’n blodeuo i mewn i arddangosfeydd a thynnu’n nôl y rhai sy’n heneiddio er mwyn inni eu hadfer a gofalu amdanyn nhw.

Defnyddir y poly-twnnel i epilio a thyfu planhigion gwytnach i’w dangos yn yr awyr agored.

 

Nid yw’r tai gwydr hyn ar agor i’r cyhoedd, ond gellwch edrych i mewn iddyn nhw drwy ymweld â’r ardal Cadw er mwyn ein Dyfodol.