Mae’r Llechweddau Llechi sy’n wynebu i’r de, gan edrych dros Llyn Uchaf, yn enghraifft o ailgylchu ar ei orau
Gorchuddiwyd y gwelyau â haen o wastraff llechi o chwareli Cymru. Nid yn unig y mae llechi’n cadw lleithder ond maent hefyd yn cadw gwlithod draw. Efallai yr hoffech chi roi cynnig ar ddefnydd tebyg yn eich gardd chithau!
Sylwch ar sut mae glas a phorffor y llechi yn cydweddu â’r blodau a’r dail sy’n goch, glas a fioled, ac maen nhw’n cynnig gwrthgyferbyniad hyfryd rhyngddynt a’r blodau melyn neu oren.
Fe welwch fod amrywiaeth o lwyni a choed ecsotig yma, rhai lled ifanc ar hyn o bryd, a pheidiwch ag anghofio’r olygfa hyfryd o’r llyn, yn enwedig yn y gaeaf pan fydd barrug yn disgleirio.