Gardd Wallace

Mae’r ardd hon yn anelu at gynyddu dealltwriaeth a diddordeb mewn bridio planhigion a geneteg

Mae’r llwybrau crwn yng Ngardd Wallace yn adlewyrchu siâp troell ddwbl DNA a thrwy hynny’n rhannu siâp hirgrwn yr ardd i fod yn gyfres o welyau deniadol, pob un ar thema arbennig. Fe welwch sut y mae garddwyr wedi llwyddo i ddatblygu cyltifarau fel pys pêr, blodau haul a dahlias o rywogaethau gwyllt.

Ar hyd y wal ddeheuol, mae planhigion yn adlewyrchu llinell amser daearegol, o ymddangosiad cyntaf mwsoglau a llysiau’r afu ymlaen at farchrawn ac eto wedyn at y rhedyn a chonifferau a fu’n dominyddu cyn esblygiad y planhigion blodeuol.

Yn y dyfodol rydyn ni’n gobeithio defnyddio cyllid yr ardd i arddangos ychydig o’i hymchwil gwyddonol, yn enwedig ei hymchwil i DNA planhigion brodorol Cymru.

Enwyd yr ardd hon ar ôl y naturiaethwr Alfred Russel Wallace (1823-1913) a anwyd ym Mrynbuga. Roedd ei waith ar theori esblygiad trwy ddetholiad naturiol wedi annog Charles Darwin  i gyhoeddi ei ‘On the Origin of Species by Natural Selection’. Yn 2008, fe ddathlon ni fywyd Wallace gyda drama gan Gaynor Styles o Theatr na nÓg a gomisiynwyd yn arbennig ac a berfformiwyd gan Ioan Hefin yng Ngardd Wallace ar gyfer grwpiau ysgol ac ymwelwyr cyffredinol.