Coedfa

Beth yw coedfa?

Casgliad byw o goed a llwyni – yr hyn mae garddwriaethwyr yn eu galw’n blanhigion pren.

Pam mae’n bwysig?

Mae yna resymau amlwg o ran addysg ac ysbrydoliaeth – rydyn ni am i’n hymwelwyr ddod i adnabod, gwerthfawrogi a charu coed o bob cwr o’ byd.

Ond hyn yw ein hymrwymiad cyfnod hir i lesiant y byd yn y dyfodol.

Rydyn ni’n tyfu coed a llwyni o hadau gwyllt wedi eu casglu. Os bydd unrhyw rai o’r rhywogaethau hyn o goed yn diflannu neu’n methu â pharhau yn eu mannau gwyllt naturiol, gall hadau a thoriadau o goedfeydd fel hyn gael eu defnyddio i ailadeiladu’r poblogaethau naturiol. Meddyliwch am hyn fel cadwraeth ara deg – defnyddio ein harbenigedd garddwriaethol a gwyddonol i warchod rhywogaethau o goed ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae’r Goedfa hon yn dal yn ifanc ac yn dal i ddatblygu – plannwyd mwyafrif y coed ar ôl agor yr Ardd Fotaneg hon yn y flwyddyn 2000.  O fewn man cysgodol o goed brodorol Cymreig  cewch adrannau’n benodol ar ranbarthau rydym yn rhoi blaenoriaeth iddynt ar y dechrau – Tsieina, Gogledd America a De America.

Gan fod y Goedfa nawr yn aeddfedu, rydyn  i wedi creu llwybrau, arwyddion a mannau eistedd er mwyn i’ch ymweliad fod yn bleser ac yn ddiddorol. Dewch i gael cipolwg.