Ffeithiau a Chwestiynnau Aelodaeth

Croeso i Aelodaeth Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Bydd eich aelodaeth nid yn unig yn cefnogi un o’r gerddi elusennol mwyaf hardd, hanesyddol, diddorol a phwysig yng Nghymru, bydd hefyd yn helpu i achub a gwarchod rhywogaethau o blanhigion Cymreig sydd mewn perygl, ynghyd â rhywogaethau o blanhigion sydd bellach o dan fygwth o ddiflannu o ranbarthau hinsawdd Ganoldirol y byd.


TELERAU AC AMODAU

Drwy brynu aelodaeth flynyddol, deng mlynedd neu oes, fyddwch nid yn unig yn cefnogi’r Ardd fel elusen, ond byddwch hefyd, fel ymwelydd rheolaidd, yn arbed arian, gan roi’r cyfle i chi ymweld â’r Ardd pryd bynnag y hoffech o fewn ein horiau agor ac yn cymryd mantais o’r buddion aelodaeth sydd gennym i’w cynnig – mae’r rhain wedi’u hargraffu ar ohebiaeth aelodaeth pan fyddwch yn adnewyddu eich aelodaeth fel atgoffâd, ar gael ar ein gwefan, ac ar y ffurflen gais aelodaeth.

I gael y gorau allan o’ch aelodaeth, cymerwch yr amser i ddarllen y canlynol fel rhan o ffeithiau a chwestiynnau aelodaeth Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru:


Cerdyn Aelodaeth

Yn gydnabyddiaeth i’ch aelodaeth i’r Ardd a’i buddion, yr hyn a ofynnwn yw, pan fyddwch chi’n ymweld â Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, cyflwynwch eich cerdyn aelodaeth i’n tîm gwasanaethau ymwelwyr yn y brif fynedfa.  Os ydych chi wedi anghofio’ch cerdyn, bydd y tîm gwasanaethau ymwelwyr yn codi tâl mynediad arnoch, ac ni ellir ei ad-dalu.  Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod gennych chi’ch cerdyn(au) aelodaeth gyda chi cyn ymweld â’r Ardd.

Dim ond y person a enwir ar y cerdyn caiff mynediad i’r Ardd – ac eithrio Aelodaeth A Mwy, categori sy’n rhoi’r hawl i’r deiliaid cerdyn a enwir dod â gwestai.  Ni ellir trosglwyddo cardiau ac rydym yn gofyn yn barchus i bob aelod llofnodi eu cardiau aelodaeth.


Gerddi Cyfatebol

Mae gennym drefniant aelodaeth gyfatebol gyda’r Gerddi ac atyniadau canlynol:

  • Coedfa Westonbirt, Swydd Caerloyw
  • Gardd a Choedfa Syr Harold Hillier
  • Gerddi Botaneg a Thai Gwydr Birmingham
  • Gardd Fotaneg Prifysgol Rhydychen a Choedfa Harcourt
  • Gardd Fotaneg Frenhinol Caeredin
  • Gardd Fotaneg Younger
  • Gardd Fotaneg Logan
  • Gardd Fotaneg Dawyck
  • Gardd Fotaneg Benmore

Dim ond deiliaid cardiau fydd yn cael mynediad i’r gerddi ac atyniadau uchod.  Os oes gennych aelodaeth deuluol, cadarnhewch gyda’r ardd/atyniad yr ydych yn ymweld â hi i holi am ofynion mynediad plant.  Ni chaniateir i ddeiliaid cerdyn Aelodaeth A Mwy mynd â gwesteion i erddi/atyniadau cyfatebol.

Mae’r trefniant cyfatebol yn ôl disgresiwn yr ardd/atyniad yr ydych yn ymweld â hi.  Gallai eu rheolau a’u hamodau newid ar unrhyw adeg a byddem yn awgrymu eich bod yn cysylltu â hwy i sicrhau nad yw’r gofynion mynediad wedi newid cyn gosod allan ar daith hir.


Sicrhewch bob amser fod gennych chi’ch cerdyn aelodaeth gyda chi, fel arall bydd rhaid i chi dalu’r tâl mynediad yn yr ardd/atyniad cyfatebol.


Help! Rwyf wedi colli fy ngherdyn aelodaeth

Os ydych wedi colli’ch cerdyn aelodaeth, rydym yn hapus i’w amnewid ond bydd yna dâl gweinyddol o £5 ar gyfer pob cerdyn a gollir.  I gael cerdyn newydd, gallwch naill ai adael eich manylion yn y brif dderbynfa neu ffonio/e-bostio’r adran aelodaeth a chaiff cerdyn aelodaeth newydd i’w gadael i chi i’w gasglu yn y brif dderbynfa.  Cofiwch gall hyn cymryd ychydig ddyddiau cyn y gallwn drefnu cerdyn newydd ar eich cyfer.


Beth yw’r trefniadau ar gyfer gofalwyr yn yr Ardd?

Mae gofalwyr yn cael mynediad am ddim i’r Ardd.


Rwy’n aelod, beth os ydw i am ddod â ffrind gyda mi i’r Ardd?

Mae croeso i aelodau ddod â ffrindiau gyda nhw i’r Ardd, ond bydd rhaid i’w cyfeillion dalu am fynediad oni bai fod gan yr aelod y categori Aelodaeth A Mwy; lle gall yr aelod ddod â ffrind yn rhad ac am ddim.  Mae Aelodaeth a Mwy yn Aelodaeth Unigol (dim ond un cerdyn a gyhoeddwyd) gyda ‘chyfleuster gwestai’.  Rhaid i ddeiliaid cardiau unigol, ar y cyd a theulu dalu am unrhyw westeion a ddaw i’r Ardd.


Sut ydw i’n adnewyddu fy aelodaeth?

Tua mis cyn bydd angen adnewyddu eich aelodaeth, byddwn yn anfon llythyr atoch yn gofyn am eich cefnogaeth barhaus i’r Ardd, ynghyd â ffurflen aelodaeth, mandad debyd uniongyrchol ac amlen hunangyfeiriol.

Os wnaethoch dalu am eich aelodaeth gydag arian parod, siec neu gerdyn debyd/credyd yn y man cyntaf, mae croeso i chi wneud hynny eto, a gallwch naill ail ddychwelyd y ffurflenni drwy’r post i’r adran aelodaeth a gwirfoddolwyr neu eu gollwng yn y brif dderbynfa ar eich ymweliad nesaf.

Os byddwch yn adnewyddu drwy’r post neu dros y ffôn, ni fydd unrhyw gerdyn aelodaeth dros dro yn cael ei rhoi.  Mae hyn hefyd yn berthnasol i aelodau y mae eu haelodaeth wedi dod i ben.  Bydd yr aelodaeth y dyddio o’r dyddiad dod i ben ar y cerdyn neu ‘os yw’r aelodaeth wedi dod i ben’ bydd wedi’i ddyddio o’r dyddiad prosesu.


A allaf dalu trwy ddebyd uniongyrchol?

Os ydych yn dymuno adnewyddu’ch aelodaeth trwy ddebyd uniongyrchol, yr holl sydd angen i chi wneud yw cwblhau’r ffurflen mandad debyd uniongyrchol, ynghyd â’r ffurflen aelodaeth, a’u dychwelyd i’r adran aelodaeth yn yr Ardd.  Gallwch naill ai bostio’r ffurflen neu ei adael yn y swyddfa aelodaeth neu’r brif dderbynfa.

Am eich gwybodaeth, ond dwywaith y mis yr ydym yn prosesu taliadau Debyd Uniongyrchol, fel arfer tua’r 1af a’r 15fed o’r mis.  Rhowch dair wythnos ar gyfer prosesu Debyg Uniongyrchol o’r dyddiad postio os gwelwch yn dda.


Faint o amser y bydd yn cymryd i brosesu fy aelodaeth?

Rydym yn cynghori’n holl aelodau i ganiatáu hyd at 28 diwrnod ar gyfer prosesu aelodaeth o’r dyddiad derbyn.  Gall aelodaeth cael ei brosesu cyn yr amser hwn, yn dibynnu ar gyfnodau prysur y flwyddyn ac absenoldebau staff a gwyliau blynyddol.


Odi’r Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydain yn cael ei gynnwys yn fy aelodaeth?

Nac ydy, ond peidiwch ag ofni: fel aelod, gallwch ychwanegi at eich aelodaeth er mwyn cynnwys y Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydain am £15 y person, y flwyddyn.


Rwyf am newid fy nghategori aelodaeth eleni?

Os ydych chi’n penderfynu newid o aelodaeth Unigol i Ar y Cyd neu Deulu i Ar y Cyd ac ati, yna’r holl sydd angen i chi wneud yw cofnodi’r categori aelodaeth newydd ar eich ffurflen.  Fodd bynnag, peidiwch ag anghofio mewnbynnu naill ai enw’r aelod ychwanegol neu ddileu enw’r aelod fel bo’r angen.


Sut ydw i’n canslo fy aelodaeth (debyg uniongyrchol)?

Rydym yn deall bod amgylchiadau’n newid.  Os oes angen i chi ganslo’ch aelodaeth, neu os nad ydych am adnewyddu, cysylltwch â ni naill ai drwy’r post neu drwy e-bost.  Os oes gennych ddebyd uniongyrchol, bydd angen i chi roi gwybod inni yn ysgrifenedig eich bod yn canslo’r debyg uniongyrchol a rhaid i chi ganslo’r debyd uniongyrchol ar unwaith gyda’ch banc.  Nid ydym yn rhoi unrhyw ad-daliadau ar unrhyw gategori aelodaeth.


Mae angen i mi roi gwybod i chi am newid cyfeiriad ac ati?

Os ydych chi’n symud tŷ, wedi newid eich enw neu os yw aelod wedi marw, neu os ydych wedi newid eich cyfeiriad e-bost neu’ch rhif ffôn, rhowch wybod i ni yn ysgrifenedig naill ai drwy’r post neu drwy e-bost.  PEIDIWCH Â RHOI MANYLION DROS Y FFÔN OS GWELWCH YN DDA.  Rhowch eich hen gyfeiriad a’ch cyfeiriad newydd os gwelwch yn dda.  Byddwn bob amser yn danfon e-bost atoch yn cadarnhau unrhyw newidiadau a wnewch.

NODWCH:  Nid yw Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru o dan unrhyw rwymedigaeth i amnewid cardiau aelodaeth pan anfonir cardiau at gyfeiriad cyfredol mewn ffydd dda; ond nid yw’r aelodau wedi rhoi gwybod i ni am newid cyfeiriad yn ysgrifenedig neu os yw aelodau wedi rhoi cyfeiriad anghywir.  Cyfrifoldeb yr aelod yw cael y cerdyn (cardiau) aelodaeth o’r cyfeiriad blaenorol/anghywir.


Hoffwn roi Aelodaeth fel Anrheg.  Sut ydw i’n gwneud hyn?

Mae gan y ffurflenni aelodaeth y cyfle i roi aelodaeth fel anrheg i ffrindiau a theulu.  Gall ceisiadau Aelodaeth fel Anrheg cael eu cymryd yn y brif dderbynfa neu yn y swyddfa aelodaeth a gwirfoddolwyr.


A allaf i brynu aelodaeth fel anrheg yn yr Ardd?

Gall archebion am aelodaeth fel anrheg cael eu gwneud dros y ffôn.  Gellir anfon yr anrheg at y derbynnydd neu i’r prynwr.


Rhowch o leiaf 10 diwrnod o rybudd wrth archebu aelodaeth fel anrheg i’w hanfon drwy’r post.

NODWCH:  Pan ddaw’r amser i adnewyddu aelodaeth anrheg, anfonir y manylion adnewyddu i’r derbynnydd, nid y prynwr – mae’n ddrwg gennym, nid oes gennym y cyfleuster i’w wneud fel arall!


Mae fy mhriod/partner wedi marw, a allaf gael ad-daliad?

Nid ydym yn rhoi unrhyw ad-daliadau ar unrhyw gategori aelodaeth gydag un eithriad.  Os ydych wedi colli priod/partner ac mae yna ychydig fisoedd yn weddill ar y cerdyn aelodaeth, byddwn yn cyfnewid y cerdyn am gerdyn Aelodaeth a Mwy fel y gallwch ddod â ffrind gyda chi i’r Ardd am weddill yr aelodaeth.  O ran aelodaeth Oes neu Ddeng Mlynedd, bydd cerdyn gwestai ond yn ddilys am un flwyddyn.


Ydw i’n gallu llogi cadair olwyn neu sgwter symudedd?

Nid oes tâl am logi cadair olwyn yn yr Ardd, ond gwerthfawrogir rhodd fach, gan fod angen cynnal yr eitemau hyn.  Cysylltwch â’r tîm gwasanaethau ymwelwyr i archebu cadair olwyn.

Gellir llogi sgwteri symudedd am gost o £30 y diwrnod (gan gynnwys blaendal o £15 a fydd yn dychwelyd),  ond oherwydd y nifer uchel o ymwelwyr rydym bob amser yn cynghori bod y rhain yn cael eu harchebu o flaen llaw gyda’r adran gwasanaethau ymwelwyr i osgoi unrhyw siom.  Ffôn: 01558 667149


Mae fy ffrind, sy’n aelod, yn derbyn cylchlythyr wythnosol gennych chi ond dwi ddim.  Gallwch chi helpu?

Rydym yn cynghori’r holl aelodau i gofrestru ar gyfer y cylchlythyr wythnosol a anfonir allan fel arfer ar brynhawn Dydd Gwener, sy’n rhoi crynodeb/atgoffâd o ddigwyddiadau sydd ar ddod yn yr Ardd ac unrhyw newyddion neu gynigion arbennig sydd gennym.

I gofrestru, e-bostiwch eich enw, rhif aelodaeth a chod post i’r adran aelodaeth a gwirfoddolwyr: jane.down@gardenofwales.org.uk


A oes unrhyw ddigwyddiadau nad yw fy aelodaeth yn eu cynnwys yn yr Ardd?

Yn achlysurol, mae gennym ddigwyddiadau yn yr Ardd sy’n gofyn am dâl mynediad ychwanegol, bydd y rhain yn cynnwys:- Cwrdd â Mirgath, Cyngerdd Gŵyl Ifan, Sioeau Nadolig a Theithiau a Boreau Coffi Aelodau, a chyngherddau a digwyddiadau eraill, er y rhoddir rhybudd llawn.


Nid wyf wedi derbyn fy nghylchgrawn aelodaeth?

Rydym yn cynhyrchu dau rhifyn o Yr Ardd, cylchgrawn yr aelodau, bob blwyddyn.  Caiff rhifyn y gwanwyn ei bostio at bob aelod a bydd yn cynnwys llyfryn digwyddiadau.

Caiff rhifau dilynol o Yr Ardd, yn yr haf a’r hydref, eu hanfon at yr holl aelodau â chyfeiriad e-bost.  Bydd yr aelodau hynny heb gyfleuster e-bost yn derbyn copi yn y post. Yn unol â’n polisi cynaliadwyedd/amgylchedd, yr ydym yn ceisio lleihau’r papur a phostio yr ydym yn defnyddio, ac felly mae anfon e-gylchgrawn yn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â’n polisi ac yn ein helpu ni fel elusen i arbed arian sydd ei angen.  Os hoffech gael copi caled o’r cylchgrawn, gellir eu casglu o wahanol fannau gwybodaeth o gwmpas yr Ardd.


Mae fy ffrind, sy’n aelod, wedi derbyn tocynnau mynediad am ddim ond nid ydw i. Pam?

Fel rhan o fuddion Aelodaeth Oes a Deg Mlynedd, mae aelodau’n derbyn pedwar tocyn mynediad am ddim bob flwyddyn, fesul aelodaeth, sy’n cael eu hanfon gyda rhifyn y gwanwyn o gylchgrawn Yr Ardd.


Preifatrwydd Data

Weithiau bydd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru’n casglu data personol oddi wrth bobl y mae’n rhyngweithio â nhw, ond fe ddywedir wrthych bob tro pan gaiff ei gasglu ac at beth y caiff ei ddefnyddio.

Ni fyddwn byth yn trosglwyddo’ch data personol i unrhyw un arall oni bai eich bod wedi cytuno neu oni bai bod gofyn i ni yn ôl cyfraith, a byddwn bob tro yn cymryd y gofal mwyaf am unrhyw ddata personol a gasglwn. Gellir dod o hyd i fanylion llawn yn ein Hysbysiad Preifatrwydd.


Eich hawliau

Mae gennych yr hawliau canlynol o dan Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), er hynny nid ydynt oll yn hawliau terfynol:

  • I gael copi o’ch data (Cais am Fynediad gan Wrthrych Data);
  • I ofyn i ni newid data anghywir neu anghyflawn;
  • I ofyn i ni ddileu neu roi’r gorau i brosesu eich data; a
  • I wrthwynebu prosesu eich data lle rydym yn dibynnu ar ein buddiannau cyfreithlon fel sail gyfreithlon ar gyfer prosesu.

Cysylltwch â Swyddog Gwarchod Data’r Ardd ar y cyfeiriad isod os ydych yn dymuno gweithredu unrhyw rai o’r hawliau yma neu i drafod defnydd eich data personal. I wneud Cais am Fynediad gan Wrthrych Data, cwblhewch ein Ffurflen Cais am Fynediad gan Wrthrych Data  a’i hanfon at y Swyddog Gwarchod Data.

Swyddog Gwarchod Data, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Llanarthne, Sir Gâr SA32 8HG

Neu e-bostiwch dataprotection@gardenofwales.org.uk. Mae croeso i chi gysylltu gyda ni yn y Gymraeg neu’r Saesneg.


Gwneud cwyn

Dylech gysylltu â Swyddog Gwarchod Data’r Ardd ar y cyfeiriad uwch os dymunwch wneud cwyn. Ar yn ail medrwch gysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn https://ico.org.uk/make-a-complaint.

Rydym am i chi fwynhau’ch aelodaeth a phob ymweliad a wnewch i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.  Rydym yn gobeithio y bydd y wybodaeth uchod yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.


Am unrhyw ymholiadau, cysylltwch â:  Adran Aelodaeth a Gwirfoddolwyr, Gardd Fotaneg Genedlaethol, Llanarthne, Sir Gaerfyrddin, SA32 8HG      Ffôn: 01558 667118 E-bost: jane.down@gardenofwales.org.uk

*Gall gost sgwter symudedd newid heb rybudd.