17 Ion 2018

Cylchlythyr yr Ardd – Ionawr 17

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Croeso i gylchlythyr diweddara’r Ardd, os hoffech ei dderbyn yn syth i’ch cyfeiriad e-bost, cofrestrwch yma.

Gweler y cylchlythyr llawn yma.

Ffair Fwyd

Bydd yna ddigon o ddanteithion blasus i galonogi mis Ionawr oer a hir, yn Ffair Fwyd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Ionawr 20-21.

Cynhelir y digwyddiad yn amgylchyniad syfrdanol Tŷ Gwydr Mawr yr Arglwydd Foster a fydd yn cynnig amrywiaeth o gynnyrch blasus lleol – ac mae mynediad i’r Ardd ond yn £4 y person.

Meddai trefnydd y digwyddiad, David Hardy: “Dyma gyfle i flasu a phrynu unrhywbeth a phopeth o siocled amrwd i gig o fridiau prin, saws tsili, caws, jin arbennig, tapas Sbaenaidd, myffins, malws melys, finegr ffrwyth a ffagots.  Bydd yna ddigon o bice ar y maen twym, ffres hefyd.  Beth sydd ddim i’w hoffi!?

Mae’n rhaid gweld Plas Pilipala anhygoel (a throfannol!) yr Ardd, gyda channoedd o bilipalod egsotig o goedwigoedd glaw o bob cwr o’r byd.

Mae’r drysau’n agor am 10yb ac yn cau am 4:30yp (gyda’r mynediad diwethaf am 3:30yp).  Nid oes tâl ychwanegol am y Ffair Fwyd ac mae digon o barcio am ddim i bawb.

Cofiwch: mae mynediad i’r Ardd AM DDIM ar ddiwrnodau’r wythnos ym mis Ionawr – perffaith am dro’r gaeaf yn gefn gwlad hynod o brydferth Sir Gâr.

Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad hwn neu unrhyw ddigwyddiad arall ewch i’n gwefan, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk neu ffoniwch 01558 667149.

 

Cadw’n Heini – AM DDIM!

Gwnewch yn fawr o’r mynediad am ddim yn ystod yr wythnos trwy gydol fis Ionawr i gadw’n heini.  Mae dewis o lwybrau i’w dilyn, a byd natur i’w werthfawrogi ar bob un ohonynt.  Casglwch bamffled o’r llwybrau ‘Cadw’n Heini Am Ddim‘ yn y brif fynedfa ar eich ffordd i mewn, neu cymerwch olwg fan hyn i drefnu’ch ymweliad o flaen llaw.

Pam na wnewch chi gadw i’ch addunedau’r Flwyddyn Newydd drwy losgi’r calorïau gyda 568 erw o’r Ardd Fotaneg Genedlaethol fel cefndir?

Rydym wedi creu nifer o lwybrau o gwmpas yr Ardd – rhai ar lwybrau gwastad yn addas i rodwyr, pramiau a chadeiriau olwyn gyda rhai sy’n fwy garw, gyda llwybrau garw o gwmpas yr ystâd.

Mae’r amrywiaeth o lwybrau yma wedi cael eu marcio’n glir, ac mae map am ddim i’ch tywys ar eich taith – ac mae gan bob llwybr cyfradd ‘teisen gwpan’ sy’n cyfeirio at y radd o anhawster.

Os ydych chi’n mwynhau’r ffordd hon o gadw’n heini, beth am gymryd aelodaeth flynyddol er mwyn i chi gadw mwynhau mynediad am ddim i’r Ardd am weddill y flwyddyn.

Sgyrsiau Am Ddim

Cewch gyfle i galonogi dyddiau oer y gaeaf ym mis Ionawr trwy glywed straeon am anturiaethau botanegol o bob cwr o’r byd.

Bydd ymchwilwyr planhigion modern rhyngwladol yn rhoi sgyrsiau yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar dri Dydd Gwener yn olynol am 12 canol dydd – mae’r sgyrsiau am ddim ac mae mynediad i’r Ardd am ddim hefyd.

Ar y 19eg, dyma dro Tom Christian, Swyddog Prosiect yn y Rhaglen Cadwraeth Gonifferaidd Ryngwladol.  Bydd ei sgwrs ‘Travel in search of Conifers’ amdano’i nifer o deithiau i chwilio am gonwydd yn y wlad hon a thramor, a bydd yn helpu i gyflwyno’r grŵp hwn o blanhigion rhyfeddol mewn golau newydd.

Colofnydd y Guardian, Robbie Blackhall-Miles, sy’n cwblhau’r triawd o helwyr garddwriaethol anhygoel ar Ionawr 26 gyda sgwrs o’r enw ‘Hunting Shapeshifters: the search for Proteas in the mountain of South Africa.’  Mae Robbie yn weithiwr planhigion a gwarchodwr.  Mae Planhigion Ffosil, ei gardd fotaneg yng Ngogledd Cymru, yn gartref i gasgliad o blanhigion esblygiadol cynnar.

Mae’r sgyrsiau’n dechrau am 12 canol dydd yn Theatr Botanica’r Ardd.  Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01558 667149, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk neu ewch i https://garddfotaneg.cymru

 

Ffair Hen Bethau

Mae stondinau yn drymlwythog â thrysorau a bargeinion di-ri i drawsffurfio Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru – wrth i Ffair y cwmni Derwen Antiques dychwelyd i’r Ardd – yn ogystal â chriw ‘Bargain Hunt’ y BBC yn dychwelyd i ffilmio yn ystod y digwyddiad.

Bydd hen bethau, pethau casgladwy, retro a hen ffasiwn yn cymryd i’r llwyfan ymhlith y blodau prin ac sydd mewn peryg yma ar Ddydd Sadwrn a Dydd Sul 27ain a 28ain o fis Ionawr.

Bydd y penwythnos hefyd yn Benwythnos i Chi a’r Ci, felly dewch â’r ci bach am awyr iach gorau Sir Gâr!

 

Gwirfoddoli yn yr Ardd

Ydych chi’n chwilio am rywbeth newydd i wneud y Flwyddyn Newydd hon?  Beth am wirfoddoli yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol?

Os oes gennych chi bach o amser rhydd i’w rhoi, cysylltwch â’n Hadran Gwirfoddoli i drafod y cyfleoedd gwirfoddol ar gael – jane.down@gardenofwales.org.uk

 

Adweitheg yn yr Ardd

A wyddoch chi yna stiwdio adweitheg o fewn yr Ardd?

Wedi’i leoli yn yr Ardd Wallace, mae Llawenydd yn cael ei rhedeg gan adweithegydd profedig, Jody Evans.

Adweitheg yw’r wyddoniaeth o ddefnyddio’r egwyddor bod meysydd atgyrch yn y traed a’r dwylo sy’n cyfateb i holl chwarennau ac organau’r corff.  Gan ysgogi’r atgyrchau hyn yn iawn, gall helpu llawer o broblemau iechyd mewn ffordd naturiol.

Mae triniaethau adweitheg yn para awr fel arfer, gydag ymgynghoriad meddygol cyn y driniaeth.

Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys archebu apwyntiadau, cysylltwch â Jody Evans ar 07766043237 neu e-bostiwch llawenyddjody@gmail.com