Julie James

Ymddiriedolwraig

Mae Julie wedi bod yn Ymddiriedolwraig ers 2012.

Mae Julie James yn gadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, lle y bu’n aelod a apwyntiwyd gan Lywodraeth Cymru ers 2006. Mae hi’n dal amrywiaeth o swyddi cyhoeddus gan gynnwys: Cyfarwyddwr anweithredol o Fwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda, Aelod Annibynnol er Archwilio Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol, ac Asesydd  ar gyfer Safonau Iechyd yn y Gwaith Corfforaethol Llywodraeth Cymru.