Llwybr Ymchwil Artist Natur Sonig: Synhwyro Gardd Cymru
Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn falch iawn o gyhoeddi Llwybr Ymchwil Artist newydd cyffrous, a ddyluniwyd gan ein Hartist Ymchwilydd Preswyl, Cheryl Beer, fel rhan o Gymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol gyda Chyngor Celfyddydau Cymru. Mae Cheryl wedi datblygu ‘Natur Sonig: Synhwyro Gardd Cymru’, gan gysylltu ein hymwelwyr yn ddyfnach â’r byd naturiol, trwy sain, cerddoriaeth ac eco-ddweud storïau.
Meddai Cheryl,
‘Mae Natur Sonig yn gyfle i ymgysylltu â natur trwy’r synhwyrau. Mae Natur Sonig yn eich gwahodd i synhwyro byd natur trwy eich bod cyfan wrth i chi gyffwrdd, clywed, teimlo a phrofi’r storïau bregus ond cydnerth a anwybyddir yn aml, ond sy’n creu cysylltiad dwfn wrth deithio drwy ecoamser o’r planhigyn blodeuol cyntaf i’r ffosiliau sy’n creu adeiledd craidd Cymru.
Mae Cheryl yn un o 8 artist o bob rhan o Gymru a ddewiswyd ar gyfer y Gymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol fawr ei bri. Mae ei hymholiad creadigol yn archwilio ffyrdd newydd o gysylltu cymunedau â natur trwy’r synhwyrau, gan ddefnyddio technegau hybrid sy’n eich galluogi i gyrchu ei gwaith yn yr Ardd, neu ble bynnag yr ydych yn y byd. Mae hefyd yn eich gwahodd i gyfrannu at ei hymchwil gyda’ch meddyliau a’ch myfyrdodau.
Ychwanegodd,
‘Fel rhan o ymchwil fy Nghymrodoriaeth, rydw i wedi datblygu ymarfer newydd o’r enw ‘Darlunio Sonig’, gan weithio gyda’r marciau ar ffosiliau coed 310 miliwn mlwydd oed, croen cysegredig y fedwen Himalaiaidd, a chylch bywyd y goeden fagnolia, i gyfansoddi cerddoriaeth a arweinir gan yr amgylchedd.
Rydw i hefyd wedi cydweithio gyda’r tîm cadw gwenyn yn archwilio dirgryniad fel ffordd o ymgysylltu, gan recordio y tu mewn i nythfa o 30,000 o wenyn a defnyddio fest ddirgryniad sy’n galluogi ymwelwyr i brofi’r sŵn dan y croen a theimlo sut mae bod yn wenynen sy’n byw yn y cyfryw gymuned.
Mae fy Llwybr Ymchwil Artist yn gorffen gyda Thaith Gerdded Ddistaw at Dderwen 200 mlwydd oed sy’n tyfu yn Waun Las, Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cymru. Ers i mi golli fy nghlyw, rydw i wedi datblygu dealltwriaeth ddofn o brofi natur trwy’r synhwyrau. Mae’r Daith Gerdded Ddistaw yn wahoddiad i brofi’r byd naturiol yn yr un ffyrdd ag y gwnaf innau.
Mae codau QR wedi’u hailgylchu wedi’u gosod drwy’r holl Ardd ac maent yn eich arwain at 5 ffilm fer sydd ar gael yn Gymraeg, Saesneg ac Iaith Arwyddion Prydain, a phob un yn eich tywys ar daith tra chynhyrfus i fyd natur. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Cheryl – www.cherylbeer.com/sonic-nature