Yr Ardd Ddeu-fur

Mae’r Ardd Ddeu-fur yn dangos esblygiad planhigion blodeuol

Rhannwyd hi i bedwar chwarter, pob un â’i lwybr nodedig.

Mae chwarteri 1,2 a 3 yn dweud stori esblygiad planhigion blodeuol, wedi’i seilio ar y gwaith ymchwil DNA a microsgopig diweddaraf. O’r lilis dŵr cyntefig yng nghanol yr Ardd, i’r cyltifarau diweddaraf ger y muriau allanol, gallwch deithio drwy 150 miliwn o flynyddoedd o hanes botanegol.

Yn chwarter 1 gellir dod o hyd i blanhigion sy’n egino gydag un ddeilen, sy’n blodeuo’n driphlyg a chwephlyg, ac sydd ganddynt ddail siâp gwaywffon gyda llinellau cyfochrog arnynt  – gelwir y planhigion hyn yn fonocotyledonau. Mae Tŷ Trofannol yn chwarter 1, sy’n cynnwys sawl math o fonocotyledon fel tegeirian, palmwydden a theulu’r bromelia yn bennaf.

Mae planhigion sy’n egino gyda dwy ddeilen, ac yn cynhyrchu blodau mewn deuoedd, trioedd a phumoedd, yn cael eu hadnabod fel ewdicotiaid, a gellir dod o hyd iddynt yn chwarteri 2 a 3.

Yn chwarter 4 mae’r ardd gegin fodern, sy’n adlewyrchu defnydd gwreiddiol y lleoliad. Dewisir y cnydau a dyfir yma am eu nodweddion esthetig ynghyd â faint mor flasus y’n nhw – gellwch ddod o hyd iddyn nhw efallai ar eich plât yn ein Bwyty Tymhorol. Wrth ymyl y mur ger y Tŷ Trofannol mae adfeilion y Tŷ Eirin Gwlanog o ddechrau’r 19eg ganrif y gobeithiwn ei adfer dros y blynyddoedd nesaf.

Ry’n ni wedi cynllunio llwybr peillio er mwyn eich helpu chi i archwilio a deall yr Ardd Ddeu-fur. Gallwch gasglu taflen bwrpasol o un o’r blychau arddangos gwyn mewn siâp cwch gwenyn a leolwyd o amgylch yr Ardd Ddeu-fur, a’r tu allan i’r Ardd Wenyn.

Ei hanes

Mae’r Ardd Ddeu-fur yn nodwedd anarferol iawn yng ngerddi Cymru a Lloegr, ond maent yn fwy cyffredin yn Yr Alban.   Mae’r mur allanol o gerrig a’r mur mewnol o frics yn creu cyfres o wahanol micro-hinsoddau, a chredir bod hyn yn ymestyn y tymhorau tyfu.

Pan adeiladwyd hi 200 o flynyddoedd yn ôl, roedd yr Ardd Ddeu-fur, sydd yn ymestyn dros 3 erw, yn gallu darparu digon o ffrwythau a llysiau ffres i deulu o dros 30, ac roedd 12 o arddwyr llawn amser yn cael eu cyflogi.   Roedd y ddau fur – un o gerrig, un o frics – yn rhoi cysgod rhag anifeiliaid a’r tywydd garw, ac yn creu micro-hinsoddau pwysig lle y gallai planhigion tyner dyfu.

Galluogodd hyn i arddwyr Syr William Paxton ymestyn y tymor tyfu, ac, mewn cyfnod pan roedd cludo cynnyrch ffres yn broses araf iawn, roedd modd i Paxton wneud argraff dda ar ei westeion gyda chnwd anhymorol o gynnar o fefus, neu eirin gwlanog ffres ymhell wedi i’r prif dymor orffen.

Roedd pedwar prif lwybr o fewn y muriau, pwll chwilota canolog er mwyn darparu dŵr hanfodol i arddwyr, a thŷ gwydr yn ymestyn o’r wal (nawr yn adfail) a ddisgrifiwyd fel ‘Tŷ Eirin Gwlanog’ mewn dogfen werthiant ym 1824.   Roedd hwn yn adeilad caeëdig lle, gan ddefnyddio system wresogi tanddaearol mewn arddull Rufeinig, tyfwyd coed eirin gwlanog a ffrwythau meddal eraill trwy gydol y flwyddyn.   Efallai y defnyddiwyd y gerddi bach rhwng y muriau cerrig a brics i dyfu ystod o ffrwythau meddal, ac efallai dyna lle y cuddiwyd gwrthrychau diolwg fel offer garddio a gwrtaith.