Y Rhewdy

Un o’r enghreifftiau gorau a mwyaf hygyrch o rewdy a welwch yng Nghymru.

Wrth gerdded i fyny rhan isaf y Rhodfa, efallai y byddwch chi wedi sylwi ar fwa bach o gerrig yn swatio ar y llechwedd i’r chwith. Dyma’r Rhewdy a adeiladwyd ar ddiwedd y 18fed ganrif i ddefnydd Neuadd Middleton.

Roedd gweision William Paxton yn ei ddefnyddio fel oergell

Storiwyd rhew yma i’w ddefnyddio i wneud sorbed ac i gadw’r storfeydd bwyd yn oer ar gyfer y llysiau o’r Ardd Ddeufur a chig o’r ystad. Byddai peth o’r rhew wedi ei gasglu o’r llynnoedd yn y gaeaf ond byddent hefyd wedi mofyn peth o Abertawe, sef  rhew wedi dod o fynyddoedd rhew mewn moroedd ymhell i’r gogledd.

Fe gewch fynediad i’r Rhewdy drwy dramwyfa fwaog o friciau a oedd wedi’i selio’n wreiddiol gan dri drws pren. Ar yr ochr bellaf mae tramwyfa fwaog is yn arwain ar ongl sgwâr i’r siambr rhew, sydd wedi suddo’n rhannol i mewn i’r llechwedd ac sydd wedi’i leinio gan friciau. Mae’r siambr ei hun oddeutu 3 metr o ddyfnder, a’r uchder mewnol cyfan o’r to cromennog ffurf twmffat yw tua 5 metr. Yn llawr bric y siambr mae basn crwn gyda draen cysylltiol a orchuddiwyd yn wreiddiol gan lechfaen. Roedd dŵr tawdd siŵr o fod wedi llenwi’r basn cyn gorlifo i’r draen. Mae gan y siambr rhew a’r dramwyfa gragen allanol o fric ond, yn wahanol i ambell rewdy arall, nid oes lle ar gyfer inswleiddio rhwng yr haenau. Pentyrrwyd clai o amgylch y dramwyfa a’r siambr i’w hinswleiddio.

Pan agorwyd yr Ardd ffensiwyd ardal o gwmpas y Rhewdy oherwydd y gred fod ystlumod yn ei ddefnyddio. Ond pan gynhaliwyd arolwg yn 2009 doedd dim ystlumod yno. Mae’n bosibl eu bod yn gorffwys ar yr adeilad wrth wibio heibio!