Pont Felin Gât

Tirwedd treftadaeth yn eich disgwyl

Dilynwch y rhwydwaith o lwybrau sy’n cydblethu a byddwch yn cyrraedd tirwedd o gyfnod y Rhaglywiaeth sy’n cynnwys golygfeydd godidog a nodweddion dŵr syfrdanol, ac yn rhoi cipolwg ar orffennol yr ystad. Mae’r cymeriad hanesyddol yn weddillion mudiad diwylliannol ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif a roddai werth ar ymgolli mewn amgylcheddau naturiol a phopeth a oedd yn brydferth, yn ddarluniadol ac yn aruchel. Mae’r parcdir, y llynnoedd a’r coetiroedd, sy’n cael eu rheoli heddiw yn rhan o’n Gwarchodfa Natur Genedlaethol, yn gartref i amrywiaeth o fywyd gwyllt.

Mae Pont Felin Gȃt yn goetir llydanddail o ffawydd, oestrwydd, derw ac ynn, lle mae yna garped o glychau’r gog Hyacinthoides non-scripta, blodau’r gwynt Anemone nemorosa a thormaen aur Chryospenium oppositifolium i’w gael yn y gwanwyn, a hwnnw wedyn yn ildio i redyn, ac yna, yn yr hydref, i amrywiaeth ysblennydd o ffyngau, rai ohonynt yn brin yn genedlaethol.

Mae yna lwybrau, pontydd a llynnoedd wedi cael eu hadfer yn ddiweddar i’ch dwyn yn nes at natur. Cadwch eich llygaid yn agored ddiwedd y gwanwyn am y gwybedog mannog yn nythu, a glas y dorlan, bronwen y dŵr a gweision y neidr ar y llynnoedd a’r nentydd, ac, os byddwch chi’n ffodus iawn, y dyfrgwn a’r brithyllod ynddynt.

I lawer o’n hymwelwyr, mae’r rhaeadr a’r cwympiadau dŵr, nodweddion dynol o ddiwedd y 18fed ganrif, yn uchafbwynt bywhaol, ac yn deffro atgofion am olygfeydd, synau a theimladau tebyg a roddodd wefr i ymwelwyr yma 200 mlynedd yn ôl.