Mae’r berllan hon yn cynnwys dau gasgliad mawr.
Ar yr ochr ddwyreiniol mae gennym y Casgliad Cenedlaethol o Amrywogaethau Afalau Cymreig. Er gwaethaf pwysigrwydd hanesyddol a phoblogrwydd helaeth yr afal, mae mwy na hanner perllannau Cymru a Lloegr wedi mynd i ddifancoll oddi ar 1900.
Ar yr ochr orllewinol mae gennym gasgliad o amrywogaethau afalau o bob man yn y gwledydd Celtaidd.
Mae’n hanfodol ein bod yn helpu i warchod yr amrywogaethau Cymreig a Cheltaidd hyn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae bridio ar hyd y cyrion Celtaidd wedi dibynnu ar nodweddion amgen i sefydlu afalau yn y rhanbarthau gwlyb hyn – er enghraifft y gallu i wrthsefyll clefydau megis crach, cancr a Phytophora.
Bydd yr Ardd Fotaneg yn mynd ati i ddefnyddio amrywogaethau treftadaeth sydd mewn perygl o fynd i ddifancoll ochr yn ochr â cheisio adfer amrywogaethau afalau coll, camau a fydd yn cyfoethogi ein perllannau yn ddiwylliannol ac yn enetig, fel ei gilydd.
Bydd technegau tyfu arloesol yn cael eu defnyddio, gan gynnwys impio cyltifarau afalau a ddymunir ar ben boncyffion sefydledig. Bydd hyn yn sicrhau bod ein coed yn dalach pan fyddwn yn dod â defaid i mewn i gadw’r glaswellt i lawr ac atal chwyn rhag gordyfu.
Bu plant a chymunedau lleol yn helpu i blannu’r berllan hon. O edrych yn ofalus, gallwch weld eu henwau wedi’u rhoi ar y coed a blannwyd ganddynt.