Llynnoedd yr Ardd

Mae yna gadwyn hardd o lynnoedd yn yr Ardd sy’n creu pontiad esmwyth o’i rhannau ffurfiol i’w rhannau anffurfiol

Maent hefyd yn darparu cynefin pwysig ar gyfer fflora a ffawna dyfrol.

Cafodd llynnoedd yr Ardd eu creu tua 200 mlynedd yn ôl gan y peiriannydd James Grier, a gafodd ei gyflogi gan y tirfeddiannwr Syr William Paxton. Ffurfiwyd ei system ddyfeisgar o lynnoedd, nentydd, pyllau a rhaeadrau trwy ddefnyddio argaeau, pontydd a llifddorau.

Dros amser, trodd y llynnoedd yn raddol yn ddryslwyni lleidiog a oedd yn drwch o goed, ac roedd yn anodd credu eu bod yn dal dŵr clir ar un adeg.

‘Nawr, fesul un, mae’r pum llyn wedi cael eu hadfer –  yn gyntaf Pwll yr Ardd, yna’r bont a’r gored sy’n dal Llyn Uchaf, ac yna Llyn Canol. Gyda chymorth grant a chyllid preifat, cafodd Llyn Mawr a Llyn Felin Gât eu hadfer o gwmpas 2020.

Mae yna rwydwaith hyfryd o lwybrau hygyrch i gadeiriau olwyn yn eich arwain ar hyd y gadwyn o lynnoedd. Byddwch yn effro i’r tapestri cyfoethog o fywyd gwyllt a phlanhigion sy’n ffynnu ar y dŵr agored a’r ymylon – efallai y bydd ymwelwyr ffodus yn gweld dyfrgwn a glas y dorlan.