Coedwig y Bwganod

Mae’r arddangosfa hon o wreiddiau coed trofannol yn un o’r gosodiadau celf amylcheddol pwysica i ddod i Gymru.

Maen nhw wedi dod o fforestydd glaw trofannol Ghana – rhyw 3000 o filltiroedd i’r de inni. Mae’r gwraidd hynaf yn 300 mlwydd oed, y trymaf yn pwyso 19 tunnell.

Felly beth maen nhw’n wneud yma?

Ysbrydoliaeth yr artist Angela Palmer yw’r arddangosfa. Roedd hi wedi arswydo o ddysgu bod coedwig trofannol maint cae rygbi yn cael ei distrywio bob pedair eiliad.

Meddyliwch felly faint a gollir bob munud, bob awr… bob blwyddyn!

Felly beth wnaeth Angela Palmer?

Fe wnaeth hi’r gwreiddiau coed hyn yn llysgenhadon ar ran y byd. Dewisodd Ghana gan fod y wlad honno yn rheoli ei fforestydd glaw yn gynaliadwy erbyn hyn. Daeth â’r gwreiddiau yn gyntaf i Sgwâr Trafalgar, wedyn i Uwch-Gynhadledd y Ddaear yng Nghopenhagen, i Brifysgol Rhydychen, a nawr i fan hyn, eu gorffwysfan olaf.

Gwahoddwn chi i’w cyffwrdd, eu haroglu, i roi cwtsh iddynt, neu eu harlunio, neu beth bynnag sy’n eich hysbrydoli i ddod i nabod y llysgenhadon amgylcheddol hyn.