Adfer Parcdir

Tirwedd dreftadaeth yn disgwyl amdanoch

Yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las mae 400 erw ichi eu harchwilio mewn mosaig hudolus o ddolydd llawn blodau, coedlannau deniadol, sawl pistyll a rhaeadr. Yn ystod pum mlynedd diwethaf rydym wedi bod yn adfer y dirwedd hon er mwyn eich llesiant, eich mwynhad a’ch antur nesaf. Mae nodweddion hanesyddol wedi eu darganfod, eu hadfer a’u hadnewyddu, ac mae llwybrau, pontydd a llynnoedd wedi eu hadennill i ddod â chi’n nes at natur.

Dilynwch y rhwydwaith cymhleth o lwybrau ac fe welwch dirwedd o gyfnod y Rhaglywiaeth ynghyd â golygfeydd prydferth a nodweddion dŵr rhyfeddol, a chewch gipolwg ar orffennol yr ystâd. Mae cymeriad hanesyddol y lle yn mynd yn ôl i fudiad diwylliannol diwedd yr 18fed a dechrau’r 19edd ganrif a oedd yn rhoi bri ar ymgolli yn mewn amgylcheddau  naturiol a phopeth hardd, darluniadol a godidog. Caiff y parcdir, y llynnoedd a’r coedlannau eu rheoli heddiw fel rhan o’n Gwarchodfa Natur Genedlaethol. Chwiliwch am flodau gwylltion, pili-pala a gwenyn ar eich taith. Ochr Wyllt yr Ardd Fotaneg yw’r lle perffaith i fwynhau harddwch distaw, treftadaeth a bioamrywiaeth Cymru.

Hoffai Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ddiolch yn fawr i’n holl gyllidwyr sydd wedi cefnogi’r prosiect hwn, mae’r rhain yn cynnwys Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol – a pawb sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol, Cyngor Sir Caerfyrddin, Llywodraeth Cymru, Esmée Fairbairn,  Pilgrim Trust, Sefydliad Tai Gwledig (Country Houses Foundation),  Ymddiriedolaeth Patsy Wood, Ymddiriedolaeth Cofebau , Sefydliad Garfield Weston, ac yn olaf diolch enfawr i’n buddiolwr dienw a roddodd rodd fawr i gychwyn y prosiect.  Mae’r prosiect hwn wedi cyfoethogi’r dirwedd ehangach i adfer y nodweddion syfrdanol a gynlluniwyd er pleser ein holl ymwelwyr.

 

Mae’r parcdir wedi’i adfer nawr ar agor.

I gael gwybod rhagor am ein tirweddi sydd wedi eu hadfer, dilynwch y dolenni isod [botymau gyda hyperddolenni]