1 Chwef 2023

Arsylwadau Gwirfoddolwyr Cadwraeth 24 Ionawr 2023

Conservation Volunteers

Oer – 2°C, cymylau llwyd, dim heulwen ond dim gwynt.

Colin – roedd heddiw, neu o gwmpas y dyddiad hwn, yn hyn a fydd, gobeithio, yn ddigwyddiad blynyddol, sef mesur cylchedd y Coed yr ydym wedi bod yn eu monitro yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf. Trwy wneud y gwaith, rydym yn gobeithio gallu pennu pa mor dda neu beidio y maent yn tyfu. I wneud hyn, bu i ni rannu’n ddau grŵp a, gyda thapiau mesur hir, aethom ati i geisio mesur pob coeden ar yr uchder gofynnol o 1.5 m o’r ddaear, neu ar y lefel ‘uchaf’. Nid yw hon yn dasg hawdd ei chyflawni, ac, yn achos y ddwy dderwen a’r wernen, roedd canghennau eiddew yn rhwystr mawr. Hefyd, yn achos rhai o’r coed, nid oedd yn bosibl mesur ar uchder o 1.5 m a, lle’r oedd yna ganghennau iorwg, neu yn achos y Fedwen a’r Helygen Ddeilgron, sawl coesyn, gwnaed y mesuriadau wrth y bôn ac ar hyd un o’r coesynnau. Tynnwyd lluniau o bob mesuriad yn y gobaith y gellir mesur yn yr un man bob blwyddyn yn y dyfodol.

Mae hwn yn brosiect hirdymor i raddau helaeth, a gallai fod yn fwy buddiol i genedlaethau’r dyfodol nag i ni.

Nicky – yn dal i chwilio am arwyddion o weithgarwch moch daear, y tro hwn yn yr hen gae ‘tyfu’r dyfodol’ ac o’i gwmpas. Yn gysylltiedig â’r frochfa ger y fynedfa gorfforaethol, sylwodd John, Angela a minnau ar lwybr moch daear yn arwain o dan ffens i gae ac allan trwy’r prysgwydd ar hyd ymyl ffens y ffordd. Roedd y llwybr yn fforchio wedyn, ac er ein bod wedi dilyn y naill a’r llall, roeddent yn guddiedig dan fyrnau gwair a oedd newydd gael eu taenu. Roedd yna gloddiadau/grafiadau posibl eraill ymhellach tuag at y cychod gwenyn.

Marie – cafwyd hyd i ffyngau ar foncyffion cwympedig ger y cerflun heddwch, ac roedd eirlysiau’n dod i’r amlwg ger Coed y Gwanwyn.

Hazel – crafanc-yr-arth yn agor allan yn y gwely gyferbyn â Chraig yr Oesoedd. Eirlysiau ar lethr yng Nghoed y Gwanwyn. Tri robin goch yn cardota am fwyd, ac un ohonynt yn hofran o’m blaen, felly rhoddodd Gilly a minnau friwsion bisgedi iddynt ger y safle seindorf.

Cinio eto lan llofft yn y bwyty.