17 Awst 2019

Peilliwr y dydd #1 – Britheg y Gors (Euphydryas aurinia)

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Mae britheg y gors yn rhywogaeth sydd dan fygythiad ym Mhrydain ac mae ei gwarchod yn flaenoriaeth uchel. Arferai gael ei gweld ledled Prydain, ond erbyn hyn mae wedi’i chyfyngu i Orllewin Prydain ac Iwerddon, lle mae arni angen ardaloedd eang o dwmpathau gwlyb neu dir porfa calch. Mae’r larfau’n bwydo bron yn llwyr ar damaid y cythraul (Succisa pratensis) gan greu gweoedd sidan amlwg sy’n helpu eu diogelu rhag ysglyfaethwyr. Mae’r gwyfynod llawn dwf, fel y mwyafrif o bili-palod, yn bwydo ar neithdar ac maent yn arbennig o hoff o lesyn y coed (Ajuga reptans), blodyn llefrith (Cardamine pratensis), ac ysgall (Cirsium spp.)

Mae ardal Cross Hands yn arbennig o gryf i fritheg y gors ac mae yno ardaloedd eang o gynefin gwerthfawr. Cofnodwyd un fritheg y gors gan y fyfyrwraig wyddoniaeth, Lydia Cocks, yn yr Ardd ym mis Mai eleni, sef y record gyntaf erioed i’r Ardd!

I ddarganfod mwy am ein peillwyr, ymunwch yn Ŵyl y Peillwyr, Awst 24-26 2019.