4 Gorff 2019

Cadwch yn heini yn yr awyr iach a’r amgylchedd hardd

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Beth am ymuno â’n band hapus o Redwr Buggy – bob dydd Mawrth am 10.30yb?

Lisa Evans yw arweinydd ein grŵp Rhedeg Buggy sydd yn boblogaidd iawn gyda rhieni a’u plant. Yma mae’n siarad am yr ysbrydoliaeth, y cymhelliant, yr endorffau naturiol a’r cwmni da sy’n dod o gymryd rhan.

Mae’r grŵp rhedeg bygi yn cyfarfod yn wythnosol yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar ddydd Mawrth.Dechreuodd y grŵp ym mis Medi 2018 ac mae’n mynd o nerth i nerth.Mae mamau nad ydynt yn gallu mynychu’r grŵp yn aros yn rhan o’r Whatsapp grŵp er mwyn i’r gefnogaeth barhau.

Mae’r grŵp yn darparu mwy nag ymarfer corff ac iechyd corfforol, mae hefyd wedi ffurfio grŵp cefnogi a all roi sicrwydd bod mamau eraill yn delio a  sefyllfaoedd tebyg.

Mae yna wastad amser cydymdeimladol neu air cymhelliad ar gael.

Mae’r babanod hefyd wrth eu bodd yn bod yn yr awyr iach ac fel arfer yn syrthio i gysgu wrth i ni redeg.

Rydym yn ffodus iawn o allu rhedeg mewn lleoliad mor brydferth.Mae’r grŵp yn darparu ar gyfer pob gallu ac mae’r geiriau a ddefnyddir yn aml ymhlith y grŵp yn “ysbrydoliaeth” ac yn “gymhelliant”!

Gan fod lefelau ffitrwydd wedi cynyddu mae rhai ohonom wedi cwblhau Ras am Fywyd a rasys 10K lleol ond byddem yn mwynhau’r cyfle i hyfforddi tuag at hanner marathon fel tîm.

Rhai geiriau gan aelodau’r grŵp: “Roedd yn 100 y cant beth oedd angen arnai, endorffinau naturiol a chwmni da.” “Fe wnaeth y sesiynau yn yr Ardd fy ysbrydoli i ddod yn fwy heini a mynd yn ôl i redeg – grŵp mor wych.” “Wedi caru’r cwmni. ”“ Rhedeg gwych y bore yma.

Rwy’n mynd i’w cholli pan fyddaf yn ôl yn y gwaith. ” “ Rhedeg anhygoel y bore yma. Hoffwn i mi allu dod bob wythnos.

Mae’r grŵp yn cyfarfod bob dydd Mawrth am 10.30yb yn y prif faes parcio. Os ydych chi eisiau cymryd rhan, anfonwch e-bost at info@gardenofwales.org.uk