Yr Ardd Fotaneg yw Rhif 1 yn ôl darllenwyr y Garden News.

Trwy gydol haf, wnaeth darllenwyr y Garden News pleidleisio i ddarganfod y 100 Gardd Gorau ar draws y DU i gyd, gyda’r Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn derbyn y mwyaf o bleidleisiau na unrhyw ardd arall yng Nghymru.

Dywed golygydd y cylchgrawn, Simon Caney: ‘Hwn yw’r tro gyntaf mae gerddi trwy gydol y DU wedi cael ei osod yn y drefn yma gan fod miloedd o bobl wedi pleidleisio.’

 

Wnaeth Huw Francis, cyfarwyddwr yr atyniad yn Sir Gâr dweud: ‘Mae cael ein cydnabod fel yr Ardd Ymwelwyr Gorau yng Nghymru gan ddarllenwyr Garden News yn ganmoliaeth uchel yn wir.’

‘Rydym yn hynod o anrhydeddus bod cynulleidfa mor wych yn gwerthfawrogi casgliadau planhigion anhygoel y Tŷ Gwydr Mawr, yr Ardd Ddeu-fur, Yr Ardd Siapaneaidd, ac ardaloedd eraill yn rhy niferus i’w sôn, ac mae wedi dyfarnu’r wobr hon i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.’

 

Enillydd cyffredinol y DU oedd Gerddi Barnsdale yn Rutland, syniad a chrëwyd gan y garddwr Geoff Hamilton o Gardeners World.

* Cylchgrawn Garden News, cyhoeddwyd gan Bauer Media, cyhoeddodd cylchgrawn garddio wythnosol blaenllaw’r DU, ar werth bob dydd Mawrth. Ei gylchrediad wythnosol yw 37,967 (ABC Ion-Gor 2018).

[:]