Os hoffech chi arddangosfa o flodau yn y gaeaf cynnar – ‘Early Sensation’ – plannwch hwn yn eich gardd. Mae’n blodeuo ym mis Ionawr ac yn para tan fis Mawrth.
Mae ei drwmped melyn-aur yn sefyll yn falch ar ben coesyn tal.
Edrychwch amdano ar hyd y Rhodfa.