Yn dilyn lansiad llwyddiannus y digwyddiad y llynedd, dychwelodd Gŵyl BioBlitz ym mis Gorffennaf 2026 ar gyfer penwythnos arall o ddathlu bywyd gwyllt Cymru a chofnodi biolegol. Ein nod oedd cael cynifer o bobl â phosibl i gymryd rhan a chofnodi’r nifer mwyaf posibl o rywogaethau yn yr Ardd yn ystod y digwyddiad 48-awr.
Bu i ni groesawu arbenigwyr, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr o bob oed i’r Ardd, gan ddod â dros 23 o sefydliadau cadwraeth o bob cwr o Gymru ynghyd.
Mae BioBlitz yn ras yn erbyn amser i ddod o hyd i gymaint o fywyd gwyllt â phosibl, a’i adnabod, a hynny dros gyfnod penodol. Mae hyn yn rhoi cipolwg ar amrywiaeth y rhywogaethau mewn lleoliad penodol. Dim ond 48 awr oedd gennym i gofnodi cynifer o rywogaethau â phosibl ar draws safle 560 erw – ac roedd arnom angen eich help chi i wneud hyn!
Roedd dros 50 o gofnodwyr o bob oed yn rhan o’r gwaith o gyflwyno’r rhywogaethau y bu iddynt eu gweld, ac roedd nifer mwy wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau dros y penwythnos. Cyflwynwyd y cofnodion trwy ap LERC Cymru, gyda’n canolfan gofnodion leol, Canolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru, wrth law i goladu cofnodion a chynorthwyo gydag ymholiadau.
Dros y penwythnos hwnnw, cyflwynwyd bron 700 o gofnodion a oedd yn cynrychioli tua 366 o rywogaethau gwahanol, sy’n ymdrech anhygoel. Hoffem ddiolch i bawb a gyflwynodd gofnodion ac a gefnogodd y digwyddiad – cafwyd ymdrech wych gan bawb a oedd yn rhan ohono!

Rhywogaeth newydd i Gymru yn cael ei darganfod a chanfyddiadau cyffrous eraill
Yn ystod y digwyddiad, cafodd o leiaf 29 o rywogaethau eu cofnodi yn yr Ardd Fotaneg am y tro cyntaf. Nid yw’r rhywogaethau hyn wedi cael eu gweld yma o’r blaen, felly roedd yn brofiad cyffrous cael ychwanegu’r canfyddiadau hyn at ein rhestr o rywogaethau sy’n parhau i ehangu.
Y peth mwyaf cyffrous yw bod Liam Olds o gwmni Glo i Natur wedi cofnodi rhywogaeth newydd i Gymru – pryfyn tir o’r enw Metopoplax fuscinervis. Rydym yn deall mai dim ond mewn ardaloedd gwasgaredig yn Ne-ddwyrain a Chanolbarth Lloegr y cofnodwyd y pryfyn hwn yn y gorffennol. Mae bellach wedi cael ei ddarganfod yng Nghymru am y tro cyntaf.

Mae Liam hefyd wedi ychwanegu 16 o rywogaethau pryfaid newydd at restr yr Ardd, sy’n debygol o gynnwys y chwilen Bruchidius imbricornis – rhywogaeth newydd ar gyfer Sir Gaerfyrddin, a dim ond yr ail gofnod yng Nghymru.
“Mae darganfyddiadau fel hyn yn dangos pa mor werthfawr y gall digwyddiadau BioBlitz fod. Trwy ddod ag arbenigwyr, aelodau o’r cyhoedd a phobl sy’n frwdfrydig dros fywyd gwyllt ynghyd i’w gofnodi, rydym yn parhau i wella ein dealltwriaeth o’r rhywogaethau y ceir hyd iddynt yng Nghymru – ac weithiau, rydym hyd yn oed yn datgelu rhywogaethau nad oedd neb wedi sylwi arnynt tan ’nawr.” – Liam Olds, Glo i Natur

Y rhywogaethau a gofnodwyd amlaf o bell ffordd oedd tair rhywogaeth o bili-pala; y Gwyn Mawr, Gweirlöyn y Ddôl a’r Mantell Dramor, ac yn agos at hynny roedd y Gwenoliaid Duon y gellid eu gweld – a’u clywed – yn hedfan o gwmpas yn eu partïon sgrechian drwy’r dydd. Cawsom hyd yn oed weld ychydig o wennoliaid duon ifanc yn edrych allan o’u blychau nythu ar Neuadd yr Apothecari.
Uchafbwyntiau’r Ŵyl
Nid bwriad y digwyddiad hwn yw cofnodi biolegol yn unig – roedd yna hefyd raglen lawn o sgyrsiau, teithiau tywys a gweithdai wedi’u cynllunio i ennyn diddordeb y cyhoedd mewn cadwraeth a bywyd gwyllt Cymru. Roedd yna rywbeth i bawb ei fwynhau a chymryd rhan ynddo.
Roeddem wedi dysgu am y rhywogaethau cennau gwahanol sy’n tyfu ar goed, meinciau a chreigiau, nad oes neb fel arfer yn sylwi arnynt. Bu i ni gwrdd â Harvey, Llygoden yr Ŷd a ddaeth gyda’r Swyddog Cadwraeth yn Folly Farm.Yn y cyfamser, mae Cymdeithas Recordio Synau Bywyd Gwyllt wedi darparu ffordd gyffrous o brofi bywyd gwyllt, gan ddefnyddio meicroffonau a thechnoleg glywedol i ddatgelu synau’r amrywiaeth o’n hamgylch mewn ffyrdd newydd. I’r rheiny a oedd yn meddu ar allu mwy artistig, roedd yna hefyd weithdai llifo planhigion a chadw dyddiadur natur i’w mwynhau.
Mae’r digwyddiad hwn yn ymdrech gwbl gydweithredol rhwng sefydliadau, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr ledled Cymru a thu hwnt – ni fyddem wedi gallu gwneud hyn heb eich cefnogaeth chi. Roedd yn braf gweld cynifer o bobl sy’n frwdfrydig dros fywyd gwyllt i gyd mewn un lle, gan rannu eu gwybodaeth a’u hangerdd, yn ogystal â’r gwaith anhygoel y maent yn ei wneud.



Diolch yn fawr iawn i bawb a fu’n ymwneud â chynllunio, cynnal a chefnogi’r digwyddiad gwych hwn – roedd yn ymdrech tîm wirioneddol, ac yn gyfraniad ystyrlon at fonitro bioamrywiaeth. Gobeithiwn weld pob un ohonoch eto’r flwyddyn nesaf ar gyfer Gŵyl BioBlitz 2027!
Rhagor o Wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y BioBlitz, cofnodi biolegol, a sut i gyflwyno cofnodion, defnyddiwch y dolenni canlynol:
Cefnogir Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru gan Gronfa Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru, sy’n ariannu gwaith i gyflawni gwelliannau seilwaith ar Warchodfa Natur Genedlaethol Waun Las, gan ganiatáu i ni reoli’r safle er mwyn gwella bioamrywiaeth ac ymgysylltu ag ymwelwyr â’n treftadaeth naturiol.
