Mae prosiect newydd i warchod rhai o’r rhywogaethau planhigion mwyaf agored i niwed yng Nghymru wedi cael £823,320 trwy’r Gronfa Rhwydweithiau Natur – buddsoddiad pwysig yn nyfodol botanegol y genedl.
Mae’r Gronfa Rhwydweithiau Natur yn cael ei darparu gan y Gronfa Dreftadaeth ar ran Llywodraeth Cymru. Nod y rhaglen yw cryfhau gwydnwch safleoedd gwarchodedig Cymru a chyflymu adferiad natur.
Dan arweiniad Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, bydd y prosiect yn ehangu’r gwaith o warchod planhigion dan fygythiad trwy gynyddu casgliadau hadau ym Manc Hadau Cenedlaethol Cymru a gwella’r seilwaith cadwraeth yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las.
Mae’r angen yn daer. Ar hyn o bryd, dim ond 11% o fflora Cymru sydd wedi’u cadw yn y Banc Hadau Cenedlaethol. Bydd y cyllid hwn yn galluogi’r Ardd i ehangu casgliadau’n sylweddol trwy dargedu 100 o nodweddion â blaenoriaeth ymhlith planhigion sydd i’w cael ar Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ledled Cymru.
Dywedodd Dr Kevin McGinn, Curadur y Banc Hadau a’r Llysieufa yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru:
“Mae gwarchod hadau yn darparu rhwyd ddiogelwch hanfodol i’n planhigion brodorol. Bydd ehangu Banc Hadau Cenedlaethol Cymru yn helpu i ddiogelu amrywiaeth enetig rhywogaethau dan fygythiad ac yn darparu adnodd sy’n cefnogi gwaith adfer cynefinoedd ac ymchwil wyddonol ledled Cymru.”
Yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las, bydd y prosiect yn gwella seilwaith gyda’r nod o gefnogi pori er lles cadwraeth ac adfer cynefinoedd. Yn sgil atgyweirio ffensys, gwella systemau dŵr da byw, a mesurau i leihau difrod gan geirw a chwningod, bydd modd rheoli’r tir yn fwy effeithiol. Bydd y newidiadau hyn yn cefnogi cynefinoedd coetir a glaswelltiroedd sy’n gyforiog o rywogaethau ac yn cynnal tirwedd fferm weithredol ar yr un pryd.
Bydd ymgysylltu â’r cyhoedd hefyd yn chwarae rhan bwysig. Gall ymwelwyr archwilio’r broses gwarchod planhigion trwy brofiadau realiti rhithwir a fideo trochi, yn ogystal â’r ŵyl gydweithredol flynyddol, Gŵyl Bioblitz, sy’n dathlubioamrywiaeth ryfeddol y warchodfa.
Dywedodd Dr Laura Jones, Arweinydd Gwyddoniaeth Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru:
“Mae’r prosiect hwn yn dwyn ynghyd wyddorau cadwraeth, rheoli cynefinoedd ac ymgysylltu â’r cyhoedd, gan helpu i osod sylfaen gadarn i warchod planhigion yng Nghymru.”
Gyda’i gilydd, bydd y mentrau hyn yn cryfhau dau o asedau cadwraeth allweddol Cymru, sef Banc Hadau Cenedlaethol Cymru a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las, gan hefyd gefnogi ymdrechion hirdymor i ddiogelu cynefinoedd ac amrywiaeth planhigion Cymru ar gyfer cenedlaethau i ddod.
Nodiadau i Olygyddion
Ynglŷn â’r Gronfa Rhwydweithiau Natur
Cyflenwir y gronfa hon gan y Gronfa Dreftadaeth ar ran Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru. Ei nod yw cryfhau gwydnwch rhwydwaith Cymru o safleoedd tir a morol gwarchodedig, gan gefnogi adferiad natur ac annog cyfranogiad parhaus y gymuned.
Bydd gwella cyflwr y safleoedd gwarchodedig a chysylltiedig hyn, yn eu galluogi i weithredu’n well fel rhwydweithiau natur. Ardaloedd hanfodol, gwydn lle gall cynefinoedd a rhywogaethau ffynnu ac ehangu yw rhwydweithiau natur. Bydd adfer cysylltedd yn y rhwydweithiau hyn yn gwneud y canlynol:
- atal dirywiad pellach yng nghyflwr rhywogaethau a chynefinoedd
- cefnogi adferiad natur
- gwella’r gallu i addasu i’r argyfwng hinsawdd
Bydd y gronfa hon hefyd yn cefnogi cyfranogiad gweithredol cymunedau mewn safleoedd gwarchodedig a’u cyffiniau. Mae cryfhau’r cysylltiad â byd natur yn dwyn buddion uniongyrchol i iechyd a llesiant pobl, yn ogystal â gwella gwydnwch y safleoedd eu hunain.
Mae’r rhwydwaith safleoedd gwarchodedig yn cwmpasu Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig, a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) eraill.
I gael gwybod rhagor am ardaloedd tirol a morol o dan warchodaeth, ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru: Cyfoeth Naturiol Cymru / Ardaloedd tirol a morol o dan warchodaeth