8 Ebr 2025

Natur yw fy Ystafell Ddosbarth: Addysgu yng Ngardd Fotanged Genedlathol Cymru

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Helo pawb, fy enw i ydy Sarah a dwi’n un o’r athrawon yma yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, dyma le y mae’r awyr agored yw fy nosbarth ac mae natur yn rhoi fy adnoddau.

Mae dydd nodweddiadol i fi yn rhoi cyfle i mi arddangos y Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru i amrywiad o ysgolion, rhai lleol rai o bellter i weld ein Gardd Genedlaethol. Yn ystod y dydd mae’r grwpiau yn ymuno â fi yn wers, cael cinio yn y Tŷ Gwydr Mawr ac yn cael peth amser rhydd i ddarganfod gweddill yr Ardd neu i ddilyn y daith Gryffalo!

Mae ein gwersi ni yn cynnwys popeth o addasiadau planhigion, bywyd yn y pwll, cylch bywyd planhigyn, y byd cyfrinachol yn ein coedwig a phlannu a thyfu llysiau a ffrwyth eich hun.

Braf yw hi i glywed nawr bod shwd gymaint o ysgolion yn trial eu gorau glas i gynnal a chadw ardaloedd gwyrdd ar bwys eu hysgolion – ‘sdim ots pa mor fach! Credaf yn gryf ei bod hi mor bwysig bod dysgwyr nawr gyda’r cyfle i dreulio amser yn yr awyr agored yn dysgu am sut i dyfu bwyd eich hun a byw mewn ffordd fwy cynaliadwy. Dwi’n helpu ysgolion ar y daith yma gan roi digon o gymorth iddynt (a hyd yn oed hadau ar adegau) a helpu nhw ail gymryd ei ardal wyrdd yn ysgol. Mae hyn yn cynnwys dal sgyrsiau am gompost, plannu cydymaith, cylchdro llysiau a chynllunio gardd. 

Fel ni’n gwybod erbyn hyn mae yn sawl budd i dreulio amser yn yr awyr agored. Yn benodol mae’n helpu dysgwyr gyda’i lles meddyliol a lleihau teimladau o bryder ac iselder. Dwi’n defnyddio’r awyr agored i helpu dysgwyr rheoli eu hemosiynau fel teimlo’n grac. Dwi’n gwneud hyn trwy annog y dysgwyr i gymryd rhan yn weithgaredd ffisegol fel plannu tato, chwynni, creu bag synhwyrau gan gynnwys lafant a pherlysiau gwahanol. Mae’r awyr agored hefyd yn gallu cynnig lle diogel i’r dysgwyr siarad am unrhywbeth sydd yn eu poeni.   

Dwi’n caru natur a dwi hefyd yn caru mynd a dysgwyr ifanc allan i’r awyr agored – beth bynnag y tywydd! Fel mae’r hen ddywediad ‘no such thing as bad clothing, just bad weather!’ ‘Sdim byd yn well na weld dysgwyr dosbarth Derbyn yn cerdded lan i’r Tŷ Gwydr Mawr yn ei ‘waterproofs’ a wellies.

Dwi’n teimlo bod ein gwersi ni yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn plethu mewn yn berffaith i Gwricwlwm i Gymru, oherwydd ein bod ni yn cynnig profiadau ‘bywyd go iawn’. Mae ein gwersi ni hefyd yn helpu adeiladu ar 4 pwrpas y dysgwyr oherwydd ein bod ni wedi cynllunio bob gwers gyda’r cwricwlwm mewn meddwl. Er enghraifft mae ein gwersi ni yn annog dysgwyr i feddwl yn gritigol am yr heriau mae ein cymunedau yn wynebu gyda’r cynnydd o stormydd ac fel ni’n gallu edrych ar blanhigion a’r ffordd maen nhw wedi addasu dros y blynyddoedd am ysbrydoliaeth a syniadau. 

Yn fy ngwersi i dwi’n credwr cryf yn ‘dysgwyr yn arwain y dysgu,’ er enghraifft os ydyn ni yn gwneud ein ffordd i’r rhandir a ni’n arsylwi grifft yn y pwll ar y ffordd, rydyn ni’n defnyddio rhan o’r wers i stopio a thrafod cylch bywyd broga. Fel adran addysg rydyn ni’n cymryd balchder yn y ffaith ein bod ni yn sicrhau bod bob dysgwyr yn cael ei chynnwys yn ein gwersi gan gynnwys dysgwyr â ADY (Anghenion Dysgu Ychwanegol), oherwydd fan hyn yn Yr Ardd Fotaneg  Genedlaethol Cymru mae yna groeso i bawb ac mae pawb yn gyfartal.

Dwi’n teimlo yn lwcus dros ben i weithio fel athrawes yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru oherwydd dwi’n gallu rhannu profiadau natur gyda dysgwyr ifanc sy’n llawn chwilfrydedd a syndod. ‘Sdim byd gwell na rhannu wen neu gof gyda dysgwyr ifanc gan wybod eich bod chi efallai yn helpu nhw i ofalu am y byd o’i gwmpas, oherwydd mae’r byd o’n gwmpas a’r bywyd gwyllt sy’n byw ynddo yn dibynnu ar y genhedlaeth nesa i edrych ar ei ôl, a ni fydd dysgwyr yn gwneud hyn os nad ydynt yn teimlo rhyw gysylltiad emosiynol dwfn.

Blwyddyn yma rydym ni yn cymryd rhan yn Wythnos Dysgu Awyr Agored (28ain Ebrill – 4ydd o Fai) gyda’r partneriaid eraill sydd yn y Cyngor Cymru ar gyfer Dysgu yn yr Awyr Agored. Byddwn yn postio adnoddau mae croeso i chi lawr-lwytho yn fuan neu mae croeso i chi archebu ymweliad i’ch dysgwyr chi dod i ymweld â ni!

Ebostiwch education@gardenofwales.org.uk am fwy o wybodaeth.

Sarah Jones

Athrawes