2 Gorff 2024

Plu a Chywion: Tymor Nythu yn yr Ardd Fotaneg

Ellyn Baker

Heddiw, fel rhan o Wythnos Natur Cymru, rydym yn dathlu bywyd adar amrywiol yr Ardd Fotaneg.

Mae’r tymor magu wedi dod i ben ar y cyfan i’r adar sy’n nythu yn yr Ardd Fotaneg. Mae cywion y Gwyddau Canada bron yn llawn plu, ac mae llawer o gywion adar ffluwchog yn dal i gael eu bwydo gan eu rhieni. Mae’r Ardd yn gartref i amrywiaeth o rywogaethau adar, gan gynnwys Hwyaid Gwyllt o amgylch y llynnoedd, Gwenoliaid Duon a Gwenoliaid ger yr adeiladau, Adar y To yn y Tŷ Gwydr Mawr, a’r Robin, yr Aderyn Du a rhyfeddodau eraill ym myd yr adar sy’n defnyddio’r cynefinoedd amrywiol yma i fagu eu cywion.

Eleni, rydym wedi gwneud ymdrechion i fonitro a chofnodi llwyddiant magu rhai o’r adar, a hynny’n rhan o Gynllun Cofnodi Nythod y BTO. Ymwelir â nythod yn rheolaidd trwy gydol y tymor i gasglu gwybodaeth hanfodol am lwyddiant a chanlyniadau’r magu, megis faint o wyau sy’n cael eu dodwy, a faint o gywion sy’n goroesi. Mae’r wybodaeth hon yn cyfrannu at set ddata hirdymor o bob rhan o’r DU y gellir ei defnyddio i ymchwilio i gwestiynau pwysig, megis effaith y newid yn yr hinsawdd ar amseroedd ac ymddygiadau magu, a’r cyfraddau llwyddiant amrywiol ymhlith rhywogaethau gwahanol.

Yn ogystal â monitro’r nyth, gellir modrwyo’r cywion dan drwydded, sy’n golygu gosod modrwy fetel gyda rhif unigryw arni ar eu coesau. Mae hyn yn caniatáu i adar unigol gael eu hadnabod os byddant yn cael eu hail-ddal yn y dyfodol, gan ddarparu gwybodaeth werthfawr am batrymau gwasgaru a mudo rhai rhywogaethau. Mae’r data cynhwysfawr hyn yn gwella ein dealltwriaeth o ecoleg a phoblogaethau adar, a’r modd y mae bygythiadau cyfoes, megis y newid yn yr hinsawdd a cholli cynefinoedd, yn effeithio arnynt.

Yn yr Ardd Fotaneg, mae ein blychau nythu yn gartrefi i’r Titw Tomos Las a’r Titw Mawr yn bennaf, sy’n adlewyrchu’r cynnydd yn eu poblogaeth dros y degawdau diwethaf. O’r 13 o flychau a fonitrwyd, llwyddodd 9 pâr i fagu cywion. Bydd y data hyn yn cyfrannu at ddealltwriaeth ehangach o boblogaethau adar a’u dynameg newidiol.

Gyda diolch arbennig i Grŵp Modrwyo Teifi am hyfforddiant ac offer.

Cefnogir Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru gan Gronfa Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru, sy’n ariannu gwaith i gyflawni gwelliannau seilwaith ar Warchodfa Natur Genedlaethol Waun Las, gan ganiatáu i ni reoli’r safle er mwyn gwella bioamrywiaeth ac ymgysylltu ag ymwelwyr â’n treftadaeth naturiol.