11 Ion 2024

Dwy flynedd o Gerdded Nordig

Catrin Nordicymru

Mae Nordicymru yn dathlu dwy flynedd o gyfarwyddo Teithiau Cerdded Nordig yn yr Ardd Fotaneg. Efallai eich bod wedi fy ngweld yn cerdded o gwmpas gyda’m mholion, glaw neu hindda. Fy enw i yw Catrin ac fe wnes i gymhwyso fel hyfforddwr gyda Cherdded Nordig Prydain yn hydref 2021.

Roedd gan y pandemig lawer i’w ateb, yn cynnwys  newid yn fy meddylfryd personol a’m ffordd o fyw. Ar ôl treulio gormod o amser o flaen fy nesg, penderfynais fod angen i mi newid fy nghydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a mynd allan ym myd natur a symud mwy.

Gan fy mod yn sgïwr a cherddwr brwd, roeddwn yn naturiol yn cael fy nenu i ddarganfod mwy am Gerdded Nordig. Nid oedd yn siomi. Nid oeddwn erioed wedi nodi fy mod yn ‘berson chwaraeon’ o’r blaen, felly gallwch ddychmygu’r syndod, nid yn unig i ddod o hyd i fath o ymarfer corff y gallwn ei wneud, ond hefyd un y gallwn, ymhen amser, adeiladu arno a herio fy hun arno pe bawn eisiau.

Ychwanegwch at hynny fanteision enfawr Cerdded Nordig gan gynnwys cael ymarfer corff llawn a llai o effaith ar y cymalau, ac roeddwn i wir wedi gwirioni. Yn y pen draw, arweiniodd hyn fi i gwblhau cwrs hyfforddwr INWA (Ffederasiwn Cerdded Nordig Rhyngwladol) gyda Cherdded Nordig Prydain, a ganed Nordicymr, fy musnes bach fy hun yn cyfarwyddo Cerdded Nordig yma yng Ngorllewin Cymru.

Wrth hyrwyddo Cerdded Nordig rwyf yn hybu nid yn unig y manteision corfforol – mae’r manteision i iechyd meddwl a lles yn enfawr. Felly beth am roi cynnig arni yn amgylchoedd prydferth Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Ewch i www.nordicymru.com am ragor o wybodaeth ac am y calendr llawn o ddosbarthiadau.