A fyddech chi’n hoffi creu dôl blodau gwyllt ar eich lawnt, mewn cae, parc neu weithle?
Os byddech, gallwn ni eich helpu.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las, sy’n cael ei rheoli fel fferm organig weithredol, yn cefnogi mosaig hyfryd o borfeydd a gweirgloddiau blodau gwyllt.
Mae’r gwaith o gynaeafu hadau blodau gwyllt a gweiriau wedi dechrau, ac ar hyn o bryd ac mae’r hadau ar gael i’w harchebu ymlaen llaw o’n siop ar-lein. Defnyddiwn gynaeafwr brwsio i gasglu hadau aeddfed y blodau gwyllt a’r glaswellt heb dorri’r borfa. Caiff y cnwd ei sychu mewn ysgubor am wythnos neu ddwy, cyn cael ei gylchdroi ac yna ei ridyllu â llaw. Mae gennym bump o ddolydd i’w cynaeafu, pob un â’i chymeriad ei hun, gan gynnwys ardaloedd mwy llaith a sych y mae modd eu cyfateb i weddu i’ch safleoedd hau chi. Bydd rhestrau llawn o rywogaethau ar gael unwaith y bydd yr hadau wedi’u cynaeafu a’u dadansoddi.
Mae gennym y cymysgeddau blodau gwyllt brodorol a hadau glaswellt brodorol canlynol i’w harchebu ymlaen llaw –
Weight | Cost | |
Bag Mawr | 200g | £20.99 |
Bag Back | 50g | £6.95 |
Sach | 1kg | £100 (Casgliad yn unig) |
Mae’r ffrwd incwm o’r gwerthiant hwn yn helpu i gyllido gwaith elusennol yr Ardd Fotaneg.
Mae gwair gwyrdd ar werth gennym hefyd ar gyfer creu dolydd, dim ond am gyfnod byr mae hwn ar gael. Mae wedi’i brisio i wneud iawn am y cnwd llai o hadau ac i helpu i dalu am dorri’r dolydd.
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau gwerthiant i’n Rheolwr Fferm ac Ystad, Huw Jones: 07500 897574 huw.jones@gardenofwales.org.uk
Yn achos hadau a wasgerir dros borfa bresennol, y gyfradd hau a argymhellir yw 5 g/m2. Mewn pridd noeth, y gyfradd hau a argymhellir yw 10 g/m2. I sicrhau’r canlyniadau gorau, mae angen hau’r hadau rhwng mis Awst a mis Ionawr.
Mae gennym bump o ddolydd i’w cynaeafu, pob un â’i chymeriad ei hun, gan gynnwys ardaloedd mwy llaith a sych y mae modd eu cyfateb i weddu i’ch safleoedd hau chi.
Er mwyn sicrhau llwyddiant, argymhellwn eich bod yn darllen neu’n chwilio am ganllawiau ynghylch creu a rheoli dolydd. Mae canllawiau dwyieithog cynhwysfawr ar gael o Hyb Dolydd Plantlife.
Rydym wedi ein trwyddedu gan yr Awdurdod Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion i farchnata ‘cymysgeddau cadwraeth’– rhif y drwydded yw 7671.

Cymysgedd o Hadau Blodau Gwyllt a Porfeydd
Plannwch y tu allan yn yr hydref ar dir moel neu yn eich lawnt, gan grafu’r arwyneb cyn plannu. Gadewch i’r planhigion flodeuo a hadu cyn eu torri yn ôl a chodi’r toriadau. Bydd rhai rhywogaethau lluosflwydd sy’n byw’n hwy yn cymryd amser i sefydlu a blodeuo.