29 Awst 2023

Prosiect adfywio’r pridd

Matt Smith

Ar hyd y Rhodfa rydym bob amser yn ceisio gwella iechyd ein pridd ac rydym wedi datblygu cynllun gwella pridd i’r perwyl hwn. Rydyn ni’n ceisio gwrando ar ein planhigion ac mewn ychydig o welyau yn arbennig mae ein planhigion wedi bod yn dweud wrthym eu bod yn cael anawsterau wrth dyfu neu sefydlu oherwydd iechyd y pridd gwaeth. Felly, rydym wedi blaenoriaethu’r gwelyau hyn ar gyfer adfywio pridd. 

Defnyddir tail gwyrdd fel rhan o amaethyddiaeth organig ac adfywiol i wella iechyd y pridd ac roeddem am dreialu’r rhain mewn lleoliad garddwriaethol. Maent yn nodedig fel enghraifft dda o ethos planhigion yn darparu atebion i broblemau anthropogenig, a hefyd fel gwrththesis i ddulliau cynhyrchu monoddiwylliannol tra synthetig.

Mae tail gwyrdd yn darparu adnodd sylweddol ar gyfer amrywiaeth o bryfed peillio. Gwelwyd hyn yn ystod treial Ardd Wallace a hefyd yn y treial eleni. Hoffem ddatblygu’r astudiaeth wyddonol o hyn yn y dyfodol, ond yn anecdotaidd eleni mae’r meillion a’r ffacbys wedi bod yn hynod ddeniadol i bryfed peillio, yn ogystal â’u gallu i osod nitrogen yn y pridd.

Mae cymysgedd o dail gwyrdd wedi ei greu o wahanol ddefnyddiau a gafodd eu treialu yn yr Ardd Wallace yn ystod tymor tyfu 2022. Mae’r rhain wedi eu hau mewn 3 gwely lle mae’r pridd ar ei waethaf. Yn y gwelyau hyn mae planhigion wedi bod yn marw, rhai aeddfed a rhai wedi sefydlu. O ganlyniad mae yma fwy o gilfachau ar gael. Rhan o brosiect ehangach o adfywio pridd yw’r tail gwyrdd, sydd wedi ei ddylunio gyda chymorth hael gwyddonydd sydd ar fenthyg o Brifysgol Caergrawnt, Raffi Hull.

Mae’r treial cychwynnol ar y Rhodfa yn cynnwys:

Helianthus annuusBlodyn haul
Linum usitatissimumLlin
Medicago sativaFfaglys corniog
Onobrychis viciifoliaY godog  
Phacelia tanacetifoliaFfaselia
Sinapis albaMwstard gwyn
Trifolium alexandriumMeillion yr Aifft
Trifolium incarnatumMeillion gwaetgoch
Trifolium michelianum
Trifolium pratenseMeillion coch
Trifolium repensMeillion gwyn
Vicia sativaFfacbys cyffredin
Vicia villosaFfacbys y tir

Raffi Hull sy’n gyfrifol am y cynnwys isod:

Adfywio’r pridd 

Pridd gwydn yw calon gardd. Mae pridd iach yn fyw o fwydod/pryf genwair sy’n creu twneli i wella adeiladwaith y pridd, ffyngau mycorhisol sy’n cludo maetholion rhwng planhigion ac yn cadw carbon yn y ddaear, a bacteria sy’n cynhyrchu cemegolion sy’n hyrwyddo cydgasglu’r pridd. Dyma rai ffyrdd rydyn ni’n hyrwyddo bioamrywiaeth pridd maethlon yn yr Add Fotaneg.

Darparu gwreiddiau byw

Mae pridd yn penderfynu sut mae planhigion yn tyfu, ond mae hefyd yn gynnyrch y planhigion sy’n tyfu ynddo. Rhwng plannu yn yr Ardd Fotaneg, byddwn yn hau tail gwyrdd i ddarparu mwy o wreiddiau ar gyfer y pridd. Mae gwreiddiau’n bwydo microbau sy’n llesol i’r pridd, yn cynyddu defnydd organaidd yn y pridd wrth iddo ddatgymalu, ac mae’n gartref i ffyngau mycorhisol. Gall tail gwyrdd gael ei ddefnyddio fel tomwellt neu ei ymgorffori wrth blannu i wneud y pridd yn fwy ffrwythlon.                                                                                                                                                              Ychwanegu defnydd organaidd

Mae ein pridd cleiog yma yn yr Ardd Fotaneg yn elwa o gael llwythi ychwanegol rheolaidd o ddefnydd organaidd. Byddwn yn ychwanegu defnydd organaidd sydd wedi pydru’n dda at y pridd wrth blannu i ddarparu bwyd  ar gyfer microbau’r pridd a gwell ffrwythlondeb. Dydyn ni ddim yn defnyddio plaladdwyr o gwbl na chwynladdwyr oherwydd mae’r rheiny’n niweidiol i fywyd gwyllt uwchlaw’r ddaear ac o dano.

Defnyddio tomwellt

Fe welwch fod haen o risgl coed ar nifer o welyau yn yr Ardd Fotaneg. Mae rhisgl coed yn ddefnyddiol iawn i helpu cadw chwyn i lawr ac i fwydo pridd yr wyneb. Mae’n cadw lleithder i mewn yn ystod cyfnodau sych ac yn cadw’r pridd yn gynhesach mewn cyfnodau oer. Dydyn ni ddim yn rhoi rhisgl coed o gwmpas llysiau, oherwydd mae hynny’n eu hamddifadu o lefelau uchel o’r nitrogen sy’n ofynnol i dyfu’n gryf.  Weithiau bydd pethau anarferol yn codi eu pennau drwy’r rhisgl coed, felly cadwch eich llygaid ar agor am ffyngau’n tyfu o gwmpas y planhigion.