15 Mai 2023

Sut gall garddwyr atal lledaeniad rhywogaethau ymledol?

Tomos Jones

Tomos Jones yw Rheolwr Prosiect Rhwydwaith Ecolegol Gwydn Cymru (WaREN) yn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Mae ganddo sawl blwyddyn o brofiad yn ymgysylltu â garddwyr ar fater rhywogaethau ymledol fel myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Reading a Chymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol Coventry.

Mae’n Wythnos Rhywogaethau Ymledol (15 – 22 Mai 2023) ac felly dyma gyfle perffaith i edrych ar sut gall gerddi fynd i’r afael â problem rhywogaethau ymledol!

Beth yw rhywogaethau ymledol?

Mae llawer o rywogaethau wedi cael eu cyflwyno gan fodau dynol i rannau o’r byd lle na fyddent i’w cael yn naturiol. Ers hynny, mae rhai o’r rhain wedi lledaenu i’r gwyllt lle maent yn effeithio’n negyddol ar yr amgylchedd, yr economi, ein hiechyd a’r ffordd rydym yn byw. Gelwir y rhywogaethau hyn sy’n cael effaith yn rhywogaethau ymledol. Mae’r rhywogaethau ymledol hyn bellach yn cael eu cydnabod fel un o’r pum prif fygythiad i fyd natur yn fyd-eang, ynghyd â: newidiadau yn y defnydd o’r tir a’r môr, llygredd, ecsbloetio organebau yn uniongyrchol (e.e. pysgota anghynaliadwy) a newid hinsawdd. Yma byddwn yn canolbwyntio ar rywogaethau ymledol sydd wedi dianc o erddi.

Planhigion addurnol ymledol

Prif ffynhonnell rhywogaethau ymledol yn fyd-eang yw eu cyflwyno fel planhigion gardd addurnol, sydd wrth gwrs wedi bod yn digwydd ers canrifoedd ac wedi arwain at fflora gardd cyfoethog iawn.

 “Mae tua 70,000 o wahanol blanhigion ar gael i’w prynu ym Mhrydain yn ôl Darganfyddwr Planhigion diweddaraf y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (RHS).

Mae’r rhan fwyaf o’r rhain wedi’u cyfyngu i’n gerddi ni, ond mae eraill wedi llwyddo i ddianc. Mewn gwirionedd, mae mwy na hanner y fflora ym Mhrydain ac Iwerddon wedi’u cyflwyno o fannau eraill yn y byd.

O blith y planhigion addurnol hynny sydd wedi dianc o erddi, dim ond ychydig sydd (hyd yma) wedi profi’n ymledol. Gallant gael effeithiau fel cystadlu â rhywogaethau brodorol am adnoddau (e.e. golau a dŵr), cario a lledaenu clefydau, a chroesi – enghraifft gyffredin o hyn yw’r croesryw rhwng y clychau’r gog brodorol (Hyacinthoides non-scripta) a’r clychau’r gog Sbaenaidd ymledol (Hyacinthoides hispanica).

Mae enghreifftiau pellach o rywogaethau ymledol sydd wedi tarddu mewn gerddi yn cynnwys (yr enwog) canclwm Japan (Reynoutria japonica neu Fallopia japonica) a rhododendron (Rhododendron ponticum). Yn eu blodau nawr mae dwy rywogaethau ymledol, sef cennin trionglog (Allium triquetrum) a thriaglog goch (Centranthus ruber).

Allium triquetrum · © Lisa Toth

Sut gall garddwyr atal lledaeniad rhywogaethau ymledol?

Yr ateb syml yw: Mynd at Wraidd y Mater! Mae posib cyflawni hyn drwy dri cham pwysig:

  • Nabod eich planhigion – ystyriwch ddewisiadau eraill yn lle planhigion yr ydyn ni’n gwybod eu bod yn ymledol (gallai’r dewisiadau eraill fod yn rhywogaethau brodorol).
  • Atal y lledaeniad – peidiwch â phlannu planhigion addurnol, na chaniatáu iddynt dyfu, yn y gwyllt.
  • Compostio’n ofalus – cofiwch gael gwared ar ddeunydd gardd a phwll (fel gwreiddiau a hadau) yn gyfrifol.

Mae canllaw newydd o’r enw Gardening without harmful invasive plants‘ wedi cael ei ryddhau gan Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Ymledol Prydain Fawr. Mae’r llyfryn yma’n cynnwys gwybodaeth a chanllawiau ar sut gall garddwyr osgoi planhigion ymledol ac awgrymiadau ar gyfer dewisiadau eraill.

Gallwch hefyd wylio Tomos ar raglen arddio S4C ‘Garddio a Mwy’ (gydag isdeitlau) yn trafod rhywogaethau ymledol mewn gerddi gyda Meinir Gwilym yma.

Dod yn ddinesydd wyddonydd! 

Gall garddwyr fod yn ddinesydd wyddonwyr drwy ganfod planhigion addurnol sy’n dangos ‘ymddygiad ymledol’. Gallai hyn fod yn blanhigion addurnol sy’n lledaenu gormod yn eich gardd. Rhowch wybod am unrhyw blanhigion ymledol posibl i Plant Alert gan ddefnyddio eu harolwg ar-lein. Os ydych chi’n byw ar Ynys Môn, yng Nghonwy neu yng Ngwynedd, cymerwch ran yn ein prosiect ‘Dihangwyr Gerddi!’. Mwy o wybodaeth yma.


Mae’r blog hwn wedi cael ei gyhoeddi hefyd gan Brifysgol Reading fel blog ‘Connecting Research’.