24 Mai 2023

Hafan i fywyd gwyllt. . . ar ganol ystâd ddiwydiannol?

Zoe Phelan

Roedd Cae Pobol yn arfer bod yn gartref i ambell alpaca, ond oherwydd y mathau o borfa yn y cae tybiwyd ei fod yn anaddas ar gyfer yr anifeiliaid, ac felly cawsant eu symud oddi yno.

Gofynnodd Cyngor Sir Caerfyrddin inni helpu gyda bioamrywiaeth y safle drwy blannu planhigion brodorol yn y cae. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi bod yn tyfu mathau brodorol yn y cefndir ar gyfer y Cyngor.  Cawsant eu tyfu gan ddefnyddio hambyrddau ‘gwreiddio’ dwfn er mwyn iddynt ddatblygu gwreiddiau da cyn eu plannu. Roedd hynny’n hanfodol gan fod y cae yn gorsiog gan mwyaf.

Ar ddiwrnod y plannu llwyddwyd i blannu dros 900 o blanhigion, a oedd yn cynnwys tamaid y cythraul (Succisa pratensis), glaswellt y geunydd (Molinia caerulea), carwy droellennog (Trocdaris verticillata), erwain (Filipendula ulmaria), blodau pengaled (Centaurea nigra), llysiau’r angel (Angelica sylvestris), gwreiddiriog (Pimpinella saxifraga) a chribau San Ffraid (Betonia officinalis) – i gyd yn blanhigion porfa brodorol gwych i beillwyr.

Trocdaris verticillata · Bruce Langridge

Y bwriad yw y bydd y planhigion brodorol hyn yn helpu troi’r cae yn fan caredig i beillwyr. Bydd y blodau gwylltion yn darparu blodau i bili-palaod i fforio am neithdar arnynt, a gobeithio y bydd y cae’n dod yn goridor i gysylltu safleoedd magu allweddol.

Os byddwch yn mynd heibio, edrychwch am y darnau bach hyn o liw dros y misoedd nesaf.

Succisa pratensis · Elliot Waters