24 Mai 2023

Arsylwadau’r Gwirfoddolwyr Cadwraeth – penbyliaid, gwynion blaen oren, a blodau coed deri

Conservation Volunteers

2 Mai

Gan Colin: Un Tegeirian Coch y Gwanwyn wrth ymyl y Goeden yn y man arferol ger y llwybr gyferbyn â’r goeden gam fargodol ger Llyn Uchaf. Roedd yna dri pan gawsant eu gweld gyntaf, a phump yw’r mwyaf a welwyd. Fodd bynnag, mae’n ymddangos bod yr hostas cyfagos wedi mygu’r prif grŵp.

Gan Chris, John a Jean: Aethom i lawr i Lyn Felin Gat i archwilio’r blychau nythu Woodcrete. Ar y ffordd i lawr yno trwy Ddôl Trawscoed, gwelsom Frych y Coed yn yr Onnen fawr ar y dde, Nicos yn mynd dros y Ddôl, a Thelor Penddu yn canu. Cerddasom i fyny’r afon o’r sba baddon dŵr, ond doedd dim golwg o’r Gwybedogion o hyd; fodd bynnag, cawsom olygfa dda o bâr o Fronwennod y Dŵr yn paru ychydig islaw’r rhaeadr. Hefyd Siglen Lwyd yn yr afon islaw’r bont uchaf, a chanddo infertebratau yn ei big. Mae’n siŵr ei fod yn nythu o dan y bont. Clywsom Gnocell Werdd yn y goedwig. Llawer o Wynion Blaen Oren (Anthocharis cardamines) gwrywaidd a benywaidd, ac ychydig o Wynion Gwythïen Werdd yn bwydo ar flodau. Wrth ddod ‘nôl i lawr ochr ddwyreiniol Llyn Mawr, gwelsom Glochdar y Cerrig gwrywaidd yn y corstir prysglog. Wrth fynd ‘nôl i fyny ochr Llyn Mawr, gwelsom Ŵydd Lwyd ar y llyn, a dwy yng Nghae Blaen. Llwyd y Berth yng nghyffiniau’r byrddau yn y Bloc Stablau.

9 Mai

Gan Peter: Daethom o hyd i ffwng wrth fynedfa Dôl Cae Trawscoed. Y peth cyntaf a ddaeth i’m meddwl oedd Coesyn Brau â thagellau ymlynol a phrint sborau coch/brown, ond cefais wybod yn bendant gan Emily Ivens mai Bolbitius titubans ydoedd, sef Cap Melyn y Maes. Mae’r ffwng hwn yn hoff o ddolydd cyfoethocach, ac mae’r genws Bolbitius yn awgrymu ‘yn ymwneud â thail’. Mae enw’r rhywogaeth yn cyfieithu i ‘wegian’, ac mai hyn yn deillio o’i nodwedd o wyro. Mae hefyd yn hygroffanaidd, sy’n golygu bod y cap yn ddi-draidd pan fydd yn sych ac yn dryloyw pan fydd yn wlyb. Pan fo’n ffres, mae’r cap yn felyn llachar, ond mae’n newid yn gyflym i liw hufen. O edrych eto ar y llun, gallwn weld olion y melyn ar y cap.

Gan Maud, Hazel, Frances, Gilly a Jan: Naw Gwyfyn, saith Rhywogaeth – Blaen Brown, tair Fflamysgwydd, Ermin Meinweog, Crwbach Llygeidiog, Teigr Cochddu, Crwbach Arian y Bedw

Gwelwyd lindys Gwyfyn y Pannog yng Ngardd Tyfu’r Dyfodol, ond nid ydym wedi gweld un yn y fagl o’r blaen. Cafodd y Blaen Brown ei weld gyntaf y llynedd, ond mae’n anarferol ei weld mor bell â hyn i’r gorllewin. Nid ydym wedi cael Crwbach Arian y Bedw o’r blaen.

Gan Ruth: Y bore yma, roedd y goeden dderw ger Ysbyty Glangwili yn frith o flodau, ac oddi tani roedd y gelynnen hefyd yn ei blodau. Ruth

Colin, Gary, John, Chris, Sue a Peter: Dôl Cae Trawscoed – llawer o Degeirianau Cors y De yn eu blodau, a’r Tegeirianau Brych yn eu dail yn bennaf. Roeddem yn arfer gallu eu cyfrif, ond mae yna ormod ohonynt ‘nawr. Dim ond un Tegeirian yn dod allan o dwmpath gwadd, felly mae’n amlwg eu bod wedi cael effaith. Roedd sawdl Llyn Mawr yn ferw o benbyliaid y broga ac o leiaf dri chlwstwr mawr o benbyliaid y llyffant, ynghyd â llawer o Grethyll pitw bach newydd ddeor. Pum Gwyn Gwythïen Werdd o amgylch y deiliach ger gwaelod y rhaeadrau isaf.

 

Nodiadau ar adar gan Chris:

  • Dôl Cae Trawscoed – caneuon gan Ji-binc, Robin goch, Bronfraith, Telor Penddu
  • Dynesu at Lyn Mawr o’r Goedwig – Titw Mawr, Titw Tomos Las, Delor y Cnau, Bronfraith
  • Coedwig Cae Trawscoed – Bronfraith ifanc a’i riant yn yr isdyfiant. Aderyn Du ifanc yn ceisio bwyta aeron Iorwg ar y ddaear.
  • Cerddais i a John ‘nôl at gefn Neuadd yr Apothecari a gallaf gadarnhau i ni weld dwy Wennol Ddu uwchben. Yn goron ar hyn, sylwyd bod yna nyth Drudwen yng ngofod y to uwchben parlwr hufen iâ Cwtsh. Roedd yr oedolyn yn mynd i mewn i dwll ‘addurnol’ yn ochr y wal.  Gallem glywed y cywion yn clegar y tu mewn.