Dyma ichi stori am garreg ryfedd ag arysgrif gyfrin arni. Mae hefyd yn stori am ddyn lleol, Terry Treharne, a welodd y cysylltiad rhwng y garreg a hanes maith Ystâd Middleton – cartref Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru erbyn hyn.
Saif Ystâd Middleton yn ne Dyffryn Tywi ger Llanarthne, mewn rhan dawel o gefn gwlad hardd Sir Gaerfyrddin. Magwyd Terry yn hen adeilad stablau’r ystád yn ystod blynyddoedd canol yr 20fed Ganrif. Mae’r adeilad hwn yn dal ar ei draed gyda’i fynedfeydd bwaog a’i gwrt – a godwyd i gadw ceffylau’r ystád a bod yn llety i’r gwastrodion. Mae rhai pobl yn sôn bod cŵn hela’r ystâd hefyd yn cael eu cadw yn yr adeilad. Roedd y stablau’n rhan o brif adeiladau’r ‘plasty ‘, a oedd yn cynnwys y tŷ, a losgwyd i’r llawr ar ddechrau’r 20fed Ganrif (y Tŷ Melyn nawr).
Pan oedd Terry Treharne yn byw yno yn blentyn, roedd yr adeiladau a oedd ar ôl wedi eu trosglwyddo i’r cyngor lleol ac wedi eu rhannu’n unedau llai, bob un gyda rhywfaint o dir wrth law yn agos i hen Ystád Middleton. Roedd y ‘ffermydd cychwyn’ hyn yn ffordd i roi dechreuad i deuluoedd lleol i brif ffynhonnell incwm Dyffryn Tywi – amaethyddiaeth.
Rhaid ei fod yn lle rhyfeddol a hudolus i blentyn dyfu – yn llawn cyfrinachau ac anturiaethau ymhlith gweddillion adfeiliedig ac olion digyswllt ffordd o fyw o orffennol breintiedig iawn. Roedd yr ardd yno gyda’i muriau uchel a’r eirin gwlanog yn dal i dyfu, y dirwedd donnog a gweddillion yr hen dŷ crand. O’r herwydd roedd gan Terry ddiddordeb oes ym mhlastai adfeiliedig Cymru sydd wedi eu hesgeuluso. Mae’n cofio o‘i blentyndod gael gorchymyn ‘DERE LAWR!’ yn rheolaidd o’i hoff olygfan – tŵr y cloc ar ochr ddeheuol adeilad y stablau. Mae’n cofio chwarae yn yr hyn sydd ar ôl o’r llynnoedd artiffisial yn y parc pleser gynt, mewn hen, hen gwch pren. Ei waith ef oedd arllwys y dŵr allan a fyddai’n llifo i mewn drwy dwll mawr yn y cwch. Mae hefyd yn cofio’n glir am ddarganfod y ‘Garreg Syrcas’.
Yn ei arddegau yn y 1950au, cafodd Terry waith yn lleol yn Clearbrook Hall (tŷ agweddi gynt a oedd yn eiddo i Ystâd Middleton). Yn yr ardd furiog fawr yno, ynghanol y drain a’r drysni, daeth Terry o hyd i garreg ag arni’r arysgrif hon:
EDW.ABADAM
MIDDLETON HALL
CIRCUS
1855
Pan aeth Terry yn ei ôl flynyddoedd yn ddiweddarach i geisio dod o hyd i‘r garreg, roedd y fan lle cofiai iddi fod erbyn hynny wedi tyfu’n wyllt. Roedd perchnogion Clearbrook wedi newid, a chan na allai ddod o hyd i’r garreg, roedd yn bryderus y gallai fod wedi ei symud neu ei thorri a‘i cholli. Ar ôl chwilio’n hir a phenderfynol, daeth o hyd iddi wedi ei gosod mewn mur cynnal yng nghefn Clearbrook Hall. Teimlai Terry fod y garreg yn rhan bwysig o hanes Neuadd Middleton a oedd wedi mynd yn angof ac y dylid ei gosod mewn lle amlwg. A gwyddai Terry i ble roedd yn perthyn!
Gan ei fod wedi ei fagu o gwmpas yr hen blasty, roedd Terry yn cofio enwau mannau lleol ac enwau’r caeau. Cofiai fod un cae yn eiddo i Fferm Waun Las (‘fferm gychwyn’ arall yn eiddo i’r Cyngor) bob amser y cael ei alw’n ‘Cae Syrcas’. Roedd stori leol hefyd fod nifer o geffylau wedi eu claddu yno, a chredai Terry fod cysylltiad rhwng yr enw ‘Cae Syrcas’ a’r garreg.
Mae’r garreg yn cofnodi’r enw EDW.ABADAM. Gwyddom ym 1855 mai Edward Abadam oedd perchennog Ystâd Middleton gan iddo ei hetifeddu yn 1824. Roedd wedi newid ei enw o Adams i ‘Abadam’ yn unol â’r arfer yn Gymraeg. Mae’r garreg hefyd yn cofnodi’r hanes am ddigwyddiad penodol, sef Syrcas ym 1855. Ond pam byddai gan Edward Abadam unrhyw ddiddordeb mewn cael syrcas ar ei dir, neu yn wir cofnodi hynny ar garreg? I ddeall hyn, mae’n helpu os gwyddom ychydig am hanes y syrcas ym Mhrydain.
O diwedd y 18fed Ganrif ymlaen daeth y syrcas deithiol yn fath pobogaidd iawn o adloniant, ei bod yn teithio at ei chynulleidfaoedd, gan ymweld hyd yn oed á threfi bach iawn. Erbyn amser y garreg hon, ganol y 19edd Ganrif, roedd poblogrwydd y ‘syrcas’ ar ei uchaf. Roedd cannoedd o grwpiau syrcas yn gweithio ledled Prydain, a nifer ohonynt yn rhai teithiol. Gwyddom fod syrcas dan do y gellid ei thynnu’n darnau er mwyn ei chludo, yn cael ei hysbysebu mor gynnar â 1854. Er bod arena’r syrcas gynnar yn agored i’r elfennau, roedd ychwanegu to yn golygu y gallai cynulleidfaoedd fwynhau perfformiadau drwy’r flwyddyn.
Adloniant gyda cheffylau oedd y syrcas yn y 19edd Ganrif, a champau gyda cheffylau oedd y prif berfformiadau gan Philip Astley (1742 – 1814 (‘ tad’ y syrcas fodern) a‘i gystadleuwr Charles Dibdin (1745 – 1814), y cyntaf i ddefnyddio’r gair ‘syrcas’. Byddai eitemau eraill fel y clown, cerdded ar hyd rhaffau, acrobateg , siyglo a dynion cryf yn ymuno â champau’r ceffylau ynghyd â llewod ac anifeiliad gwylltion eraill gan ddod yn berfformiadau mwy tebyg i’r hyn yw ‘Syrcas’ i ni heddiw.
Ond triciau ar gefn ceffylau oedd y prif atyniad o hyd, ac mae’n werth nodi bod Edward Abadam yn cael yr enw o fod yn fwy hoff o’i geffylau nag o bobl! Byddai dramâu mawr am geffylau, fel Ivanhoe, yn aml yn cael eu perfformio mewn arenâu mwy o faint – gan ddifyrru cynulleidfaoedd gan geffylau’n trotian, golygfeydd yn newid, gwisgoedd hardd, a theatr ddramatig. Cyn y neuadd gerdd, roedd y syrcas nid yn unig yn darparu adloniant, ond roedd hefyd yn ffordd bwysig i gynulleidfaoedd gael gwybod y diweddaraf am ddigwyddiadau amserol a newyddion. Byddai Rhyfeloedd Napoleon (1803-15) yn cael eu cyfleu ar ffurf drama drwy arddangosfeydd gan geffylau. Ym 1853 – ddwy flynedd cyn yr arysgrif ar y garreg hon yn nodi syrcas Abadam – roedd Amffitheatr Frenhinol Astley yn Llundain yn cyflwyno ‘The Battle of Waterloo’ a ‘The Battle of the Alma’.
I geisio deall pam y dylai syrcas gael ei chofnodi ar garreg, gall fod yn berthnasol cofio bod Tŵr Paxton weithiau hefyd yn cael ei alw’n ‘Dŵr Nelson’. Cafodd y ffoleb neo-gothig hon ei chodi ar gyfer Syr Willam Paxton, perchennog Neuadd Middleton cyn y teulu Abadam, fel neuadd wledda foethus a nodwedd i dynnu’r llygad. Roedd yn weladwy iawn am filltiroedd o gwmpas, ac yn gosod nod digyfaddawd ar y dirwedd leol. Fel ‘cofeb i’r Llyngesydd Nelson’, roedd yn osodiad clir gan Paxton am ei gysylltiadau ehangach a’i ddaliadau gwleidyddol . Byddai Edward Abadam, aelod uchelgeisiol o’r gwŷr bonheddig ac yn 1855 (yr adeg pan gafodd y garreg ei cherfio) yn Uchel Siryf Sir Gaerfyddin, wedi bod yn ceisio atgyfnerthu’r mathau hynny o gysylltiadau. A oedd wedi dewis gwneud hyn drwy drefnu llwyfannu brwydr enwog ar raddfa fawr, gan fod ganddo’r ceffylau?
O gofio hyn, mae lleoliad y cae a elwir Cae Syrcas (trowch i’r chwith ar eich ffordd i weirglodd Waun Las ac edrych i’r dde) yn ddiddorol. Dyma’r unig ddarn o dir cymharol wastad yn rhan ganol yr ystâd (a allai fod yn ddigon o faint i lwyfannu brwydr gyda cheffylau a gwylwyr), ac sy’n hollol weladwy o safle’r tŷ mawr, a hefyd o’r neuadd wledda yn ‘Nhŵr Paxton’.
Beth bynnag am hynny, dechreuodd y bennod ddiweddaraf yn hanes y ‘Garreg Syrcas’ pan ail-ddarganfuwyd hi gan Terry, a phan gytunodd perchnogion Clearbrook, Tony a Julie Salini, i anrhegu’r Garreg i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Yn garedig iawn rhoesant hwy eu caniatád i’r garreg gael ei thynnu o’r mur y tu ôl i’r tŷ, ac ychydig cyn y Nadolig yn 2021 dechreuodd saer maen lleol ar y gwaith o dynnu’r garreg, ailgodi’r mur, a dod â’r garreg yn ôl i’r Ardd.
Arweiniodd y gwaith hwn at fwy o ddarganfyddiadau hynod. Fel y tybiwyd, nid oedd y mur lle’r oedd y garreg wedi ei gosod yn hen iawn – haenen o garreg dros fur o flociau bris. Ond roedd y garreg hefyd lawer yn fwy (ac yn drymach!) nag oedd i’w gweld o’r ochr weladwy wedi’i cherfio. Ond yr agwedd fwyaf diddorol na ellid ei gweld pan gafodd y garreg ei gosod yn y mur oedd bod yr arysgrif ychydig yn amgrom, fel pe bae ar un adeg yn rhan o adeiledd crwm – canol y cylch mewn syrcas?
Mae atgofion Terry am stori y ‘Garreg Syrcas’ yn dangos mor bwysig yw gwybodaeth leol i ddeall y gorffennol. Mae penderfynoldeb Terry a’i ddyfalbarhad o’r diwedd wedi dychwelyd y garreg i olwg y cyhoedd, nôl wrth galon Ystâd Middleton, i’n hatgoffa am ddigwyddiad rhyfeddol ganol y 19edd Ganrif, ac am ran o hanes diweddarach yr ystâd nad oedd yn wybyddus iawn gynt.
Ffynonellau
www.vam.ac.uk/articles/the-story-of-circus poster advertising The Battle of the Alma at Astley’s Royal Amphitheatre, lithograff gan G. Webb & Co., 1854, Amgueddfa Llundain rhif S.545-1994. © Amgueddfa Victoria ac Albert, Llundain.