21 Ebr 2023

Diweddariad Gwanwyn am y Gwenyn

Martin Davies

Fel rheol yr adeg hon o’r flwyddyn maen nhw’n weddol gysglyd, yn dibynnu ar y mêl maen nhw wedi ei storio i gadw’n fyw nes i’r planhigion a’r coed ddechrau cynhyrchu paill a neithdar iddyn nhw fwydo arno. Ond oherwydd y tywydd teg, mae’r gwenyn wedi bod allan yn fforio, yn defnyddio’u cronfeydd gwerthfawr o ynni yn chwilio am fwyd nad yw i’w gael eto. Yn ystod y cyfnodau byr o dywydd tecach rydym wedi bod yn cadw llygad ar y gwenyn i sicrhau eu bod yn iawn a bod ganddyn nhw ddigon o stôr o fêl. Mae’r tywydd wedi golygu ein bod wedi gorfod darparu bwyd ychwanegol iddyn nhw, ar ffurf ffondant siwgwr ac ychwanegiadau arbenigol i wenyn  i’w cadw’n fyw nes bydd eu bwyd iawn ar gael neu nes iddyn nhw allu ei gyrraedd.

Anhawster arall gyda’r tywydd teg yw bod y gwenyn wedi bod yn hedfan mwy ac yn marw ynghynt na’r arfer. Bydd gwenynen “haf” yn disgwyl byw am 6 wythnos, a’r wenynen aeaf gyfatebol fel rheol yn byw am 16-20 wythnos. Bydd gostyngiad  normal ym maint y nythfa rhwng yr adeg y bydd y gwenyn gaeaf yn mynd yn llai a’r rhai gwanwyn newydd yn deor, lle bydd nythfa’n gostwng ychydig. Eleni mae mwy o wenyn gaeaf wedi bod yn marw cyn i’r Breninesau ddechrau dodwy digon o wyau, a chan fod y gwenyn  newydd yn cymryd 21 diwrnod i ymddangos, mae rhai nythfeydd wedi cael anhawster.  Yn yr Ardd, o’r 22 o nythfeydd a oedd gennym ar ddechrau’r gaeaf, 16 yn unig sydd wedi goroesi, ac mae rhai o’r rheiny sydd ar ôl yn ddigon gwan ac yn cael eu meithrin yn y gobaith y gallant fyw drwy’r ychydig wythnosau tyngedfennol nesaf.

Pan ddaw mis Mai, bydd y breninesau’n dodwy’n brysur, yn cynyddu o ryw 1000 o wyau y dydd i tua 2,500 erbyn Mehefin.  Mae gennym rai nythfeydd cryf iawn, ac ym mis Mai bydd y breninesau newydd yn cael eu cynhyrchu, felly rydym yn gobeithio gallu cynyddu ein cronfa bresennol o nythfeydd a hyd yn oed gael ambell un dros ben i’w werthu.

Mae’r llwybr newydd wedi ei osod at y wenynfa yng Nghae’r Gwenyn.  Golyga hyn y gallwn  fynd â chert bach yno i helpu symud yr offer, y cychod ac, yn fwy pwysig, y cnwd mêl pan fydd angen yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Mae’r sied storio i gael ei  symud o Fryncrwys  yn fuan, gan ganiatau inni fynd yn ôl at y gwaith o ofalu am y gwenyn heb orfod cludo popeth yn ôl ac ymlaen i’r safle newydd pan fyddwn yn ymweld.

Yn y safle newydd hefyd rydym wedi bod yn ffodus i gael nifer o goed bach, ac rydym wedi plannu’r rhain ar hyd y ffens bresennol a’r un newydd i geisio creu clawdd fel atalfa rhag y gwynt a hefyd i ddarparu rhai ffynonellau bwyd i’r gwenyn wrth law. Ymhlith y coed mae coed cyrens, drain gwynion, drain duon, criafol, coed cnau a choed helyg.  Fe gymer ychydig amser i ddatblygu, ond bydd nid yn unig yn ased werthfawr i’r gwenyn , ond hefyd yn harddu’r safle presennol ymhellach.

Martin a’r Tîm Gwenynwyr


Noddi Cwch Gwenyn

Helpwch ni i gynnal ein heidiau drwy noddi un o’r cychod heddiw. Bydd eich cyfraniad yn cynnwys y newyddion diweddaraf (bob 3 mis) gan ein Gwenynwr, a fydd yn dweud popeth wrthych am ein gwaith yn cynnal ein cychod.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.