15 Chwef 2023

Tyfwyr Byw’n Dda – Gair am y sied gan Clive

Amy Henderson

Yn sgil cymorth ariannol hael o’n cartref hyfryd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, mae Amy Henderson wrthi’n archebu sied ar gyfer y Tyfwyr Byw’n Dda.

Bydd ei safle ychydig i fyny o’r twnnel polythen, ychydig yn uwch ar lethr. Bydd y dimensiynau yn 6 troedfedd wrth 4 troedfedd.

Diben y sied fydd storio offer a fydd yn rhyddhau rhywfaint o le ar gyfer gwneud pethau eraill yn y twnnel polythen.

Mae posibilrwydd y bydd angen paentio’r sied i’w gwarchod.  Ar hyn o bryd rydym wrthi’n paratoi sylfaen gadarn cyn iddi gyrraedd.  Cludwyd y slabiau mawr a thrwm iawn yma yn garedig ar gefn lori fach ar ôl i un o weithwyr yr ardd ein gweld yn edrych yn hiraethus ar naw slab perffaith na allem eu codi!

Ac yna roedd toesenni.