8 Chwef 2023

Perllannau wrth galon Afalau Cymru

Remy Wood

Mae’r hydref yn dymor o newid, wrth i goedlannau gwyrddlas droi’n goch a melyn llachar. 

Pan fydd y dyddiau’n byrhau a bywyd gwyllt yn dechrau diflannu, rydym yn mwynhau un o’n hoff ffrwythau – afalau.

Bydd gwahanol fathau o afal yn blodeuo ar wahanol adegau yn y gwanwyn, a’u cyfnod cynaeafu’n ymestyn o    ganol mis Awst tan yn hwyr ym mis Hydref.  Mae’r Ardd Fotaneg yn ddiweddar wedi cydnabod hyn yn ein AfalFest blynyddol, sy’n dathlu’r afalau brodorol sy’n cael eu tyfu gan ein cymuned. Roedd yr amrywiaeth afalau a gyflwynwyd yn rhyfeddol, ond dim ond rhai mathau oedd i’w gweld yn gyfarwydd. O ganlyniad dechreuais feddwl o ble y daw afalau, sut daethon nhw yma, a sut gallwn ddiogelu afalau Cymreig ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Tarddiad Afalau

Mae pigo afalau yn Ewrop yn mynd yn ôl 10,000 o flynyddoedd (Cornille et al., 2014), er bod yr afalau gwyllt hyn yn cael eu galw erbyn hyn afalau surion bach, o’r rhywogaeth wyllt Malus sylvestris. Mae’r miloedd o afalau archfarchnad byd-eang yn cynrychioli rhywogaethau afalau sydd wedi ei dofi, sef Malus x domestica.

Er yr holl fathau o afalau Ewropeaidd neu Brydeinig sy’n bodoli, nid yma y tarddodd afalau wedi’u cynefino. Daw’r mathau gwyllt maent  yn tarddu ohonynt, Malus sieversii, o Asia, ac yn benodol o Kazakhstan a Gorllewin Tsieina. Yn Kazakhstan mae’r afalau gwyllt hyn i’w cael yn y Tian Shan fel coedwigoedd sy’n cynnwys cronfa gyfoethog o wahanol  afalau.

Ond sut daeth afalau i Ewrop, heb sôn am Brydain?

Masnachu.

Yn benodol drwy fasnachu ar hyd y Ffordd Sidan, pan fyddai rhwydwaith o groesi amrywiol fathau yn y rhywogaeth Malus, ynghyd â dewis gan bobl  gan greu amrywiadau genetig anferth o fewn y rhywogaethau domestig. At hynny, byddai ynysu rhwng poblogaethau unigol o afalau ar hyd y ffyrdd hyn wedi achosi mwy fyth o amrywio.

Mae afalau  M. sieversii yn cynnwys amrywiaeth rhyfeddol, o rai eithriadol o sur i ddynwared afalau masnachol. Gydag amser mae’r rhain wedi eu dethol yn artiffisial i bwysleisio nodweddion ffafriol, fel llai o asidedd a mwy o siwgwr, i roi M. domestica. Ar ôl cyrraedd Ewrop bu rhyng-fridio wedyn gydag M. sylvestris, gan roi afalau caled. Dangosodd  astudiaeth gan Duan et al. yn 2017 wrth archwilio’r genom  afalau fod  ~46% yn dod o M. sieversii, 21% o M. sylvestris, a 33% yn anhysbys, gan ddangos y cymhlethdod sy’n dod o ddethol a chreu afalau hybrid.

Afalau Cymru

Yng Nghymru mae afalau yn ddwfn yn niwylliant ein gwlad ers canrifoedd, o afalau seidr yn dâl i weision ffermydd i fathau masnachol hanfodol. Daeth afalau yma fel nwydd y byddai’r Rhufeiniaid yn eu hallforio i’w bwyta yn lle’r afalau surion bach brodorol. Daeth y Rhufeiniaid hefyd â thechnegau tyfu hanfodol, fel impio.

Daw prawf o bwysigrwydd afalau o’r 1100au pan oedd Cyfreithiau Hywel Dda yn gosod gwerth o 60 ceiniog ar goeden afalau melys, sef dwywaith cymaint ag afalau surion bach, a 60 gwaith yn fwy nag oen. Yn y Canol Oesoedd byddai mynachlogydd ac abatai’n ffynhonnell  gyffredin o afalau brodorol, tan 1536 pan ddaeth y Ddeddf Uno i’w dileu. Wrth symud i’r 1700au byddai coed afalau’n cael eu tyfu gan bobl gyfoethog mewn perllannau mawr. Gyda newidiadau yn y canrifoedd wedyn, crewyd nifer o berllannau ar raddfa fach a oedd yn cynnwys mathau Cymreig, ynghyd ag afalau masnachol gan ddefnyddio mathau Seisnig gan mwyaf.

Anaml y mae cyltifarau Cymreig wedi eu defnyddio at ddibenion masnachol, ac ymhlith yr enghreifftiau prin mae afal Morgan Sweet neu St Cecilia (a’r perllannau ar raddfa fasnachol i’w gweld yn bennaf yn Sir Fynwy). Gall hyn fod oherwydd y diffyg dewis o afalau at un diben, sef bwyta neu goginio, gan adlewyrchu hanes eu tyfu ar ffermydd neu dyddynnod yng Nghymru.

Magu Afalau

Gall creu mathau hybrid a dethol swnio’n broses syml, ond y gwrthwyneb sy’n digwydd mewn gwirionedd.  I gychwyn mae mater triploidedd. Mae bod yn driploidaidd yn golygu cael tair set o DNA ym mhob un o’ch celloedd (mae pobl yn driploidaidd gyda dwy set DNA). Bydd coeden afalau sy’n driploidaidd yn golygu y bydd yn anffrwythlon ac yn methu â’i pheillio ei hun  neu goed eraill.

Yn fras mae 1/10 o goed cyltifar Malus x domestica yn driploidaidd (Korban, 2021), ac eto dyma’r coed mwyaf manteisiol oherwydd:

  • Maent yn fwy o faint yn gyffredinol, gan roi mwy o afalau
  • Mae’r afalau’n fwy o fain
  • Maent yn atal afiechyd yn well
  • Maent yn gallu ymaddasu’n well i amodau caled

Mae afalau triploidaidd yn cynnwys Morgan Sweet, Crispin, Golden Delicious, a mathau masnachol eraill.

Er mwyn i fathau triploidaidd ffrwytho, rhaid i berllan gael ei llunio ar eu cyfer. Gwneir hyn drwy gyfuno coed triploidaidd a choed a all eu peillio, gan greu grwpiau peillio. Mae’r grwpiau hyn yn ddefnyddiol iawn wedi eu gosod allan yn y tabl peillio oddi wrth Ashridge Nurseries.

Rhaid ystyried ffactorau eraill hefyd  wrth dyfu perllannau, gan gynnwys cael yr amodau amgylcheddol cywir ar gyfer y mathau a ddewisir, dim byd sy’n  anghymharol yn enetig, a sicrhau y bydd y coed sy’n cynhyrchu  yn rhoi ffrwythau dymunol.

Perllan yr Ardd Fotaneg

Er bod yr afal yn bwysig yn hanesyddol ac yn eithriadol o boblogaidd, bu dirywiad cyffredinol yn y ffrwyth ac mewn perllannau’n gyffredinol. Mae mwy na hanner holl berllannau Cymru a Lloegr wedi eu colli er 1900 (Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, 2022).

Bydd technegau tyfu arloesol yn cael eu defnyddio ym mherllan yr Ardd, gan gynnwys impio mathau a ddymunir ar fonion sydd wedi sefydlu. Bydd hyn yn sicrhau bod ein coed yn dalach pan ddown â defaid i mewn i reoli’r borfa ac atal chwyn rhag gordyfu. Bwriad hyn yw rhoi blas o ddulliau traddodiadol Cymreig o reoli perllannau.

Bydd y berllan mewn dau hanner, y naill yn canolbwyntio ar rywogaethau sy’n benodol i Gymru, a’r llall ar fathau o bob rhan o’r gwledydd Celtaidd. Bydd yr Ardd Fotaneg yn defnyddio mathau treftadaeth sydd mewn perygl o gael eu colli, ynghyd â cheisio adfer mathau o afalau sydd wedi eu colli. Bydd hyn y cyfoethogi ein perllannau’n ddiwylliannol ac yn enetig.

Mae’n bwysig cofio mai perllan i’r gymuned yw hon. Yn y mis diwethaf mae plant lleol wedi bod yn helpu plannu’r berllan yn yr Ardd Ddeufur allanol, a’u henwau wedi eu gosod ar y coed maent wedi eu plannu. Fel rhan o ganolbwyntio cadwraethol y berllan, yn wyddonol ac yn ddiwylliannol, mae hyn yn ffordd berthnasol i atgoffa o’r cysylltiad mae’r Ardd Fotaneg yn ymdrechu i’w sicrhau gyda’n cymuned leol, yn y presennol ac am flynyddoedd i ddod.