8 Chwef 2023

Nid wyf erioed wedi bod yn hapusach

Zoe Phelan

Yr adeg hon yn llynedd roeddwn yn gweithio yn y GIG ac yn ysu am gael newid.

Ar ôl bod yn eistedd wrth ddesg am flynyddoedd mewn ystafelloedd tywyll, roeddwn am fod y tu allan. Roeddwn i hefyd yn pryderi am y pethau ofnadwy sy’n digwydd i’n planed. Roeddwn i eisiau helpu, nid rhwystro.

Gyda dau blentyn bach ac ymrwymiadau ariannol, doedd addysg bellach ddim yn ddewis, a chychwyn mewn gyrfa newydd i’w weld yn amhosibl.

Y trobwynt oedd clywed cyfweliad ar y radio. Gwraig yn ei 60au yn esbonio sut oedd hi newydd orffen prentisiaeth. Wel, am ysgytwad! Gallai hynny fod yn ddewis cyffrous i fi.

Roeddwn yn hoff o arddwriaeth erioed. Pan fyddai gennyf ddarn o dir, byddwn wrth fy modd, yn treulio unrhyw amser hamdden yn ceisio tyfu pethau o had. Digon o gyfle i ymdrechu.

Dyma fy nihangfa, ac yn faes mor eang a diddorol. Dyna oed fy syniad cyntaf ar ôl clywed y sgwrs radio, cael dysgu mewn ffordd mor ymarferol.

Roeddwn wedi ei chael yn anodd yn yr ysgol erioed. Gwell gen i ddysgu drwy ‘wneud’, felly roedd hyn i’w weld yn syniad da. Dechreuais ddarllen am brentisiaethau, ac yn fel rheol yn mynd at wefannau cynghorau lleol, ond doedd yno fawr o gyfle mewn garwriaeth.

Ychydig wythnosau’n ddiweddarach roeddwn yn methu cysgu ac euthum i weld a oedd yna raglen prentisiaethau gan yr Ardd Fotaneg. Mis Mai oedd hynny, ac ar 5 Medi dechreuais fy mhrentisiaeth dwy flynedd.

Bum mis yn ddiweddarach rwy’n cael y profiad rhyfeddaf.

Bob dydd byddaf yn pinsio fy hun! Mae’r cyfle i ddysgu yma yn arbennig iawn ac rwy’n dysgu gan arddwriaethwyr arbennig iawn sy’n hael iawn gyda’u hamser.

Mae pob diwrnod yn wahanol, wrth inni ymteb i’r hyn sy’n digwydd o gwpas yr Ardd gyda’r tywydd a’r tymhorau newydd.

Yn ystod y ddwy flynedd nesaf byddaf yn gweithio dri mis ar y tro mewn adrannau gwahanol o gwmpas yr Ardd. Roedd y cyfnod cyntaf dan do, gan gynnwys yn y Tŷ Gwydr Mawr, y Tŷ Trofannol a’r tair meithrinfa y tu ôl i’r lenni.

Treuliais mis yn dysgu am blanhigion o ben draw’r byd – cadw planhgion trofannol yn llaith, plannu planhigion nad oeddwn erioed wedi clywed amdanynt, rhoi planhigion yn llyn y Tŷ Gwydr Mawr, a threfnu planhigion yn y Tŷ Gwydr Mawr gan ddysgy llawer iawn.

Nawr rwyf ar fy ail fis ar y Rhodfa. Dechreuais ar 1 Rhagfyr mewn cyfnod oer iawn. Ar ôl tri  mis dan wydr, roedd yn gryn sioc.

Rwyf wedi dod i werthfawrogi mor hardd yw pethau yn y gaeaf. Mae yna harddwch mewn ffurf a siâp yn ogystal â pha fydd pethau yn eu blodau.

Yn ddiweddar bûm yn casglu rhedyn gyda’r Gymdeithas Pteridolegol, sydd wedi bod yn ein helpu i enwi mathau o redyn yn ein tirwedd ar gyfer arddangosfa a fydd yn croesawu ymwelwyr wrth symyl y brif fynedfa.

Rwyf wrth fy modd gyda garddio er mwyn bioamrywiaeth a pheillwyr, felly y cynllun yw i fi dreulio ychydig amser yn yr Ardd Wenyn. Gobeithio y gallaf roi siwt gwenyn amdanaf yn y misoedd nesaf.

Yn ogystal â gwaith cylchynnol, rwyf wedi cael cyfle i ymwneud â phrosiectau allanol. Fis yn ôl treuliais ddiwrnod yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot yn twtio cloddiau a phlannu planhigion ifanc gyda Buglife Wales a swyddog yr Ardd sy’n gweithio ar wahanol brosiectau yn hyrwyddo bioamrywiaeth mewn cymunedau.

Am un diwrnod mewn wythnos rwy’n mynd i goleg lleol, ar elfen theori Lefel 2 RHS yn Egwyddorion Garddwriaeth, a’r pedwar diwrnod arall allan ar y safle yn yr Ardd. Wythnos diwethaf bûm ar ystâd breifat yn y Mynydd Du lle dysgais sut i docio coed afalau. Cerddais yn helaeth yn y perllannau, ac yno roedd coed hyd yn oed wedi eu tyfu o had o dref fechan yn Kazakhstan, lle roedd y genom afalau cyntaf wedi tarddu.

Mae yna ddigon o gefngoaeth yn y cile ac ynma yn yr Srdd. Digon o adenydd i roi cysgod i fi.

Un peth sy’n rhyfedd yw cymaint sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni a’r prosiectau na fyddech efallai’n clywed amdanynt fel ymwelydd. Mae’r Adran Wyddoniaeth yn gwneud gwaith cyffrous iawn. Yn yr haf y llynedd bûm yn casglu hadau gwylltion ar Benrhyn Sant Gofan. Gan ddefnyddio mapiau GPS aethom i hela mathau brodorol sy’n brin ac mewn perygl . Yna bûm yn dethol yr hadau cyn eu hanfon i Fanc Hadau’r Mileniwm.

Erbyn diwedd pob dydd byddaf wedi blino, yn oer, yn fudr ac wedi ymlâdd, ond nid wyf erioed wedi bod yn hapusach.

Rwy’n edrych ymlaen i weld beth ddaw yn y dyfodol. Cyfnewid nodwyddau meddygol am ffyrch garddio yw’r peth gorau rwyf erioed wedi ei wneud.