22 Chwef 2023

Gweithdy Tocio · Blog Prentis

Eve Williams

Dysgodd Richard bopeth inni am docio yn y gaeaf a’r gwahanol fathau o docio, yn dibynnu ar y goeden ac a oedd honno’n cynhyrchu egin ynte sbardunau.

Cawsom hefyd daith fanwl iawn o gwmpas y perllannau yno, i weld yr holl wahanol fathau o rywogaethau a chyltifarau oedd ganddynt.

Gwelsom yn uniongyrchol y gwahanol fathau o impio roeddent wedi’u defnyddio, a’r ffyrdd rhyfeddol maent yn diogelu’r coed hyd yn oed ar ôl niwed difrifol gan stormydd ac afiechydon, fel y gall y goeden ddal i gynhyrchu tyfiant newydd a ffrwytho flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Mae’r ddau lun hyn yn dangos impio coes; mae impio coes yn ddull cyffredin o impio lle byddwch yn impio’r cyltifar a ddymunwch ar wreiddgyff.

Yn y llun ar yn chwith gallwch weld lle rydyn ni wedi torri i ffwrdd y tyfiant newydd dan yr impiad gan na ddylai dim byd fod yn tyfu dan yr impiad ei hun oherwydd bydd hynny’n tynnu egni i ffwrdd o’r impiad ei hun.

Yn yr achos hwn mae’r goeden mewn rhan o’u perllan frodorol hwy eu hunain, a dyna lle cawsom yr arddangosiad  ar gyfer y tocio, a rhoi cynnig arni ein hunain.

O’r berllan frodorol hon y daeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer adfywio ein Casgliad Cenedlaethol o Afalau Cymreig, a phan fyddwn yn impio ar ein gwreiddgyff ein hunain ar ôl y tymor cyntaf, yna bydd Andrew y perchennog a Richard sy’n rheoli’r coed yn darparu i’r Ardd y defnydd impio ar gyfer y mathau Cymreig nad ydym yn eu cynrychioli ar hyn o bryd.

Mae hwn hefyd yn un o’r mathau o impio y byddwn yn ei ddefnyddio yn y dyfodol.

Mae’r ddau lun hyn yn dangos dwy goeden a oedd wedi’u diwreiddio’n rhannol.

Doedd y coed ddim wedi’u niweidio’n ddrwg, felly penderfynodd Andrew a Richard  roi cynnig ar wahanol dechnegau i’w cadw i dyfu a ffrwytho.

Mae Richard wedi gadael un neu ddwy gangen dan y goeden i’w chynnal a’i dal yn llonydd, ac wedyn mae wedi torri i ffwrdd unrhyw beth a oedd wedi’i niweidio wrth ddisgyn.

Defaid gan mwyaf sy’n pori’r tir, felly i ddiogelu’r goeden rhag i’r defaid ei chnoi, maen nhw wedi gosod ffens o’i chwmpas.

Roedd yn ddiddorol gweld hyn, oherwydd roeddwn wedi meddwl erioed nad oes llawer y gallwch ei wneud pan fydd coeden wedi disgyn ond ei thorri i lawr ac ailblannu.  Ond o weld hyn sylweddolais fod cymaint y gallwch ei wneud cyn mynd â’r llif gadwyn ati.

Rydyn ni’n gobeithio bod y coed yn ein perllan ni yn ddiogel rhag y gwynt, gan eu bod y tu mewn i’r ardd ddeufur. Yn yr un modd mae’r coed wedi’u clymu a’u cynnal yn dda iawn, felly dydyn nhw dim yn cael eu diwreiddio mewn gwyntoedd cryf. Ond os byddan nhw’n cael eu diwreiddio, fe wyddom y gallwn ddiogelu iechyd y goeden, a chydag ychydig docio gofalus bydd yn dal i dyfu a ffrwytho.

Mae’r llun hwn yn dangos sut mae’r tyfiant wedi newid cyfeiriad ar ôl i’r goeden ddisgyn.

Felly, ar ôl i’r goeden ddisgyn a phan fyddwch wedi torri i ffwrdd unrhyw ganghennau sydd wedi’u niweidio ac wedi diogelu’r goeden, bydd y goeden yn naturiol yn ailgyfeirio’r tyfiant newydd i fyny tuag at y golau neu’r awyr.

Ar ôl hyn i gyd, y cyfan sydd raid ichi ei wneud yw tocio’n arferol bob blwyddyn.

Bydd y goeden yn cynhyrchu nifer o egin, fel y gwelwch yn y llun. Bydd rhaid ichi ddewis pa rai i’w cadw a theneuo’r lleill.

Dylech dorri i ffwrdd unrhyw beth sydd wedi ei niweidio, sy’n afiach neu’n marw, unrhyw beth sy’n tyfu i’r cyfeiriad anghywir ac unrhyw beth sy’n croesi ac yn rhwbio.

Yma gallwch weld sut mae canghennau coed cyll wedi’u defnyddio i gynnal coed eraill.

Cafodd y coed ym mhen uchaf y berllan hon eu taro’n galed gan y gwynt, ac roedden nhw’n dechrau gwyro i ffwrdd o gyfeiriad y gwynt i lawr y rhiw.

Ceisiwyd gwneud sawl peth i gadw’r coed yn syth, fel gosod strapiau a’u cynnal. Esboniodd Richard, gan fod y coed yn dal, nad oedd dim byd wedi gweithio. Felly aethpwyd ati i’w hatal rhag plygu ymhellach.

Defnyddiwyd brigau coed cyll hir gyda fforch yn y naill ben. Mae’r goeden yn  gorffwys yn y fforch  a phen arall y brigyn yn y ddaear, sy’n atal y goeden rhag plygu dim pellach ac o bosib yn torri.

Gan fod ein perllan ni yn yr ardd ddeufur allanol,  mae’n cael ei diogelu’n dda rhag y gwynt, felly dydw i ddim yn credu y cawn ni ddim problemau a gorfod defnyddio’r dechneg hon. Ond os bydd y coed yn ffrwytho’n drwm iawn, gall fod yn ddefnyddiol i gynnal ambell gangen.

Impio pont neu osgoi yw hwn; mae’n caniatau i’r goeden gael yr holl faethion mae arni eu hangen o’r gwreiddiau hyd yn oed pan fydd rhan o’r boncyff yn methu â gwneud hynny.

Mae’r impiad hwn yn wyth mlwydd oed ac wedi sefydlu’n dda iawn. Yn y llun gallwch weld bod yr impiad yn gwneud yn dda, a’i fod wedi tyfu’n anferthol ers yr impio cyntaf o ddim ond ychydig  gentimetrau o led.

Cafodd yr impiad hwn ei dynnu o’r goeden ei hun, sy’n ddewis da, ond gallwch hefyd ddefnyddio gwreiddgyff o feithrinfa.

Yn y llun ar y dde, gallwch weld y rhan o’r goeden a gafodd ei thorri i ffwrdd a’r hyn mae’r impiad yn gwneud iawn amdano. Roedd cancr ar y goeden hon, a chafodd hwnnw ei dorri i ffwrdd o’r brif foncyff. Wedyn cafodd yr impiad ei osod ac mae wedi gwneud ei waith yn arbennig.

Gall yr impiad pont neu osgoi gael ei ddefnyddio mewn sawl sefyllfa wahanol; os oes afiechyd ar y goeden sy’n achosi i’r prif foncyff farw, methu neu bydru fel yn y llun, mae impiad osgoi yn ffordd wych i ddiogelu’r goeden. Os bydd coeden ifancach wedi’i niweidio gan anifeiliaid, gallwch ddefnyddio’r impiad hwn i helpu achub coeden.

Rwy’n siwr y byddwn yn defnyddio’r impiad hwn yma yn y dyfodol gyda’n perllan ni, gan ei bod yn dechneg impio mor ddefnyddiol a hyblyg sy’n gallu achub coed enghreifftiol a’u diogelu dros gyfnod hir.

Mae hwn yn fath arall o impiad osgoi lle byddwch yn plannu gwreiddgyff newydd ac yn grafftio hwnnw ar y goeden.

Gallwch blannu o un i 10 yn ôl maint y goeden. Roedd tair ar y goeden hon gan ddefnyddio’r math hwn o impiad i blannu gwreiddgyff newydd wrth fôn y goeden ac yna impio’r pen arall ar y goeden sy’n dioddef uchlaw’r rhan sydd wedi’i niweidio. 

Diben hyn yw y bydd y gwreiddgyff yn tyfu gyda’r goeden ac yn gallu cludo’r maethion mae ar y goeden eu hangen os bydd y boncyff yn methu.

Mae’r math hwn o impio yn dda iawn os bydd y goeden yn dioddef tua’i gwaelod ac os na allwch impio uwchlaw nac islaw’r man sydd wedi’i niweidio.

Felly, rhwng popeth dysgom gymaint yn y gweithdy hwn am docio’n coed y gaeaf hwn, am dechneg impio ar gyfer y dyfodol ac am warchod coed sydd wedi’u niweidio drwy eu cynnal a’u himpio.

Rydym i gyd yn gobeithio cael cyfle i ddefnyddio’r hyn a ddysgwyd yn y gweithdy hwn wrth dyfu a diogelu’r perllannau yma yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.