7 Chwef 2023

Diweddariad Gwenyn y Gaeaf

Martin Davies

Un ohonynt yw’r brif wenynfa arddangos o fewn yr ardd ddeufur sy’n cynnwys chwech o gychod, a’r llall yw’r brif wenynfa ym Mryn Crwys, lle mae un ar bymtheg o gychod.

Tua diwedd yr hydref llwyddwyd i symud gwenynfa Bryn Crwys i leoliad newydd,ac rydym yn answyddogol wedi galw hon yn Gae Gwenyn, wrth ymyl y fynedfa gorfforaethol.  Paratowyd y safle hwn gan y tîm cynnal a chadw gweithgar yn ystod diwedd yr haf fel safle newydd i’r wenynfa,oherwydd y datblygiad sydd i digwydd ym Mryn Crwys yn y dyfodol.

Yn ystod y gwaith symud, manteisiwyd ar y cyfle i archwilio’r nythfeydd yn gyflym, i sicrhau eu bod yn iach ac yn gyffyrddus a bod ganddynt ddigon o fwyd wedi’i storio i allu byw dros y gaeaf (gall gwenyn fwyta tua 40-50 pwys o fêl yn y gaeaf). Darparwyd ychydig fwyd ychwanegol ar ffurf siwgwr er mwyn bod yn sicr, ac yna’u gadael i ymgartrefu dros y gaeaf.

Ddechrau mis Ionawr archwiliwyd y gwenyn yn gyflym i sicrhau bod y nythfeydd yn iawn ac nad oedd y cyfnod oer cyn y Nadolig wedi achosi dim problemau. Dangosodd yr archwiliad fod ein cychod i gyd, tan hynny, wedi byw drwy’r gaeaf ac wedi bwyta ychydig o’r siwgr i ychwanegu at eu storfa o fêl. Yn ystod y cyfnod cynnes ganol mis Ionawr llwyddwyd i wneud archwiliad manylach, ac roeddem ni, fi fy hun a’r grŵp gwirfoddolwyr, wrth ein bodd i weld bod pob un o’r 22 nythfa nid yn unig wedi byw dros y gaeaf ond i’w gweld yn ffynnu ac mewn cyflwr cryf ar gyfer y gwanwyn i ddod.         

Mae’n siwr fod gwaethaf y gaeaf i ddod eto ym mis Chwefror, ond er hynny rydym yn obeithiol am y tymor i ddod, ac edrychwn ymlaen i ddatblygu safle Cae Gwenyn ymhellach pan gaiff llwybr parhaol ei greu a’r sied storio fawr ei symud o Fryn Crwys.   

Gobeithio pan fydd y llwybr wedi’i osod y gallwn agor y lleoliad i ymwelwyr yr Ardd Fotaneg, lle cânt gyfle i weld gwenyn mewn amgylchedd fwy naturiol. Bydd hefyd yn safle gwych i drefnu ein dosbarthiadau Cadw Gwenyn Ymarferol, sydd ar y gweill ar gyfer Ebrill, Mai a Mehefin, a’n Diwrnodau Blasu ym Mehefin, Gorffennaf ac Awst.

Daw’r newyddion diweddaraf yn yr gwanwyn.

Martin a’r Tîm Cadw Gwenyn