25 Ion 2023

Ymdrech gymunedol i helpu adfywio hanes cyfoethog

Elizabeth Lanigan

Mae hanner cyfan y berllan wedi ei blannu gan aelodau’r gymuned o’r ardal o gwmpas. Gyda chyfraniad fel hyn gan y gymuned, mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn helpu adfywio hanes cyfoethog  tyfu afalau yng Nghymru, sy’n mynd yn ôl i’r oesoedd canol.

Er bod tarddiad hynafol yr afal (Malus domestica) yn mynd yn ôl i Kazakhstan, ar hyd y Ffordd Sidan, yn fuan iawn roedd yn cael ei dyfu mewn mannau tymherus ar hyd a lled hemisffer y Gogledd, gan gynnwys Cymru. Sonnir am dyfu afalau yng Nghymru mor gynnrar â’r 10fed ganrif, ac mae cyfreithiau’r cyfnod yn dangos mor werthfawr oedd afalau ar y pryd. Dengys cyfreithiau Hywel Dda fod i un goeden afalau yr un gwerth â 15 o foch neu 60 o ŵyn. Roedd afalau’n cael eu tyfu’n helaeth ledled  y wlad a cherddi’r oesoedd canol yn disgrifio’r perllannau yn llysoedd y tywysogion ar hyd a lled y wlad. 

Yn ystod ei hanes maith, datblygodd Cymru fathau unigryw o afalau gydag enwau lawn mor unigryw, gan gynnwys  Trwyn Mochyn a Thin yr Ŵydd. Mae gwahanol fathau o afalau hefyd yn arwyddocaol am eu bod wedi eu magu i dyfu’n benodol yng Nghymru ac yn addas i’r hinsawdd yn ogystal â gallu gwrthsefyll afiechyd. 

Yn anffodus iawn, collwyd nifer o’r mathau treftadaeth Cymreig hyn yn yr ymgyrch i gysoni afalau o ran maint a melyster ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Cafodd perllannau ynghyd á’r afalau hefyd eu safoni a daeth dulliau traddodiadol o reoli perllannau i ben. Cafodd perllannau traddodiadol yn Sir Fynwy, gogledd ddwyrain Cymru a dyffrynnoedd Tywi a Gwy eu hesgeuluso neu eu gwneud yn rhai masnachol er mwyn cynhyrchu mathau safonol o afalau. 

Mae adfywiad wedi bod yn y diddordeb mewn mathau o afalau treftadaeth Cymreig yn y blynyddoedd diwethaf.  Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru wedi bod yn rhan o’r adfywiad hwn drwy sefydlu ein perllan dreftadaeth yn wreiddiol yn 2013. Nawr, drwy ehangu’r berllan a chynnwys y gymuned yn y prosiect, gobeithiwn rannu hanes cyfoethog yr ardal o dyfu coed afalau gyda’r gymuned ehangach a gwneud y mwyaf o’i photensial ar gyfer ymchwil a chadwraeth.

Mae gwirfoddolwyr o Fwrdd Iechyd Bae Abertawe a nifer o grwpiau addysg cartref wedi dod i’n helpu i ehangu ein perllan, ac yn y broses maent wedi dod yn rhan o hanes maith o dyfu afalau yng Nghymru. Y grwpiau hyn yw’r rhai cyntaf o nifer o grwpiau o’r gymuned leol a fydd yn dod i blannu coed, dysgu sut caiff perllan draddodiadol ei rheoli,  a dysgu am hanes  tyfu coed afalau yng Nghymru. 

Wrth i’n perllan ymsefydlu yn y blynyddoedd i ddod, gobeithiwn drosglwyddo’r wybodaeth a gawn i grwpiau cymunedol eraill a allai fod yn ystyried creu perllan draddodiadol neu dyfu mathau o afalau treftadaeth Cymreig, a chadw gwybodaeth a thraddodiad tyfu coed afalau yng Nghymru i symud rhwng y cenedlaethau.