16 Tach 2022

Tyfwyr Byw’n Dda · Andrew

Amy Henderson

YMOCHEL RHAG Y GLAW …

Wel, ni allaf gredu fy mod yn nesáu at ddiwedd fy ail sesiwn (Haf/Hydref) gyda’r grŵp Tyfwyr Byw’n Dda. Mae’r amser wedi hedfan.

Rydym wedi bod yn brysur iawn yn ystod yr haf a’r hydref, ac wedi cael budd trwy dyfu llysiau bendigedig. Mae pob un ohonom wedi rhannu’r cynhaeaf. Byddai Monty Don yn falch ohonom.

O’r diwedd, rydym wedi codi’r twnnel poly – ac mae wir wedi bod yn lle gwych. Rydym yn mynd yno i ymochel rhag y glaw, ac yn cael ein hegwyl te a chacennau ynddo. Dyma hefyd lle y byddwn yn cynnal trafodaethau gwych ynghylch ein hiechyd, ein cynnydd a’n cynlluniau, a lle y byddwn yn rhoi’r byd yn ei le.

Mae’n dda cael cwrdd yn rheolaidd, ac rydym yn parhau i lunio clymau yn ein grŵp.

Rwy’n gweld y gwelliannau ymhlith fy ffrindiau, gyda’u hyder yn cynyddu.

Mae’r tîm o staff therapi a staff botaneg wedi bod yn graig i ni unwaith eto. Mor, mor gefnogol.

“Mae’n lle hapus”.

Andrew